Hafan y Blog

Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru

4 Awst 2021

Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru – Dyddiad Lansio! 

Pleser yw cyhoeddi y bydd Arddangosfa Gobaith yn agor i'r cyhoedd yn Amgueddfa Wlân Cymru ar 2 Hydref 2021 ac ar agor tan ganol Ionawr 2022. Bydd yr agoriad yn rhan o Ddigwyddiad Dathlu Gwlân digidol Amgueddfa Cymru a gynhelir ar 2-3 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad cliciwch yma Dathlu Gwlân | National Museum Wales (amgueddfa.cymru) 

Bydd yr arddangosfa hefyd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe rhwng Gorffennaf a Hydref 2022. 

Diolch i bawb a gyfrannodd at greu'r sgwariau lliw enfys. Diwedd mis Mawrth 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyfraniadau. Ers yr alwad gyntaf am sgwariau ym mis Ebrill 2020 ar ddechrau'r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, rydym wedi derbyn bron i 2,000 o sgwariau! Roedd cyfranwyr yn defnyddio’r deunyddiau oedd ar gael iddyn nhw ar y pryd, megis gwlân neu edau acrylig i greu sgwariau wedi’u gwau neu grosio, ac mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel!  

Rhannodd elusen Crisis (De Cymru), sy'n cefnogi pobl ddigartref, wybodaeth am yr Arddangosfa Gobaith ar eu tudalen Facebook, a chreu pecynnau o wlân a chyfarwyddiadau ar gyfer defnyddwyr eu gwasanaethau i’w hannog i gyfrannu. Roedd Arddangosfa Gobaith yn elfen bwysig o Wythnos Addysg Oedolion 2020, a chyhoeddwyd dau fideo o Non Mitchell, Crefftwraig yn Amgueddfa Wlân Cymru yn dangos sut i ffeltio a gwehyddu sgwâr. Crëwyd collage o ffotograffau yn cofnodi’r arddangosfa yn rhan o Broject Celf Cysylltu â Charedigrwydd, a gynhelir mewn partneriaeth ag Ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr i gofnodi caredigrwydd a chefnogaeth cymunedol yn ystod y pandemig. 

Ni ellid fod wedi rhagweld unrhyw agwedd o'r flwyddyn ddiwethaf ac mae pob un ohonom ni wedi gorfod addasu i newidiadau enfawr. Er mai creu un blanced enfys enfawr o’r sgwariau oedd ein cynllun gwreiddiol, rydym wedi penderfynu creu sawl blanced yn lle hynny. Roedden ni wedi derbyn nifer anhygoel o sgwariau ac yn sgil cyfyngiadau Covid-19 doedd dim modd i wirfoddolwyr gwrdd yn Amgueddfa Wlân Cymru. Bu Gwirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru a staff Amgueddfa Cymru felly yn uno'r sgwariau gartref i greu blancedi unigryw hardd. Wedi'r Arddangosfa, y bwriad o hyd yw rhoi'r blancedi i elusennau i'w defnyddio fel y maen nhw eisiau, boed fel blancedi neu fel darnau o waith celf. Mae mwy o flancedi yn golygu mwy o hyblygrwydd wrth arddangos, ac mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill! 

Tra bod ein gwirfoddolwyr a'n staff gwych yn brysur yn gweithio ar greu'r blancedi, rydym wedi bod yn gweithio ar ran arall o'r project hefyd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi derbyn cymaint o sgwariau hardd ac amrywiol o bob cwr o’r wlad ac mae wedi bod yn hyfryd clywed gan sawl person bod creu’r sgwariau wedi eu helpu yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Oherwydd hyn, rydym wedi penderfynu cofnodi profiadau rhai cyfranwyr o gymryd rhan yn y project. Bydd y fideo ‘Straeon y Sgwariau’ yn fideo dehongli byr yn yr arddangosfa ac ar-lein, yn cofnodi teimladau'r bobl a gyfrannodd at y project. 

Diolch i ddisgyblion Ysgol Penboyr yn Dre-fach Felindre sydd wedi creu gwaith celf ôl llaw enfys prydferth a gaiff ei arddangos yn yr arddangosfa hefyd. 

Mae’r enfys yn cael ei defnyddio'n aml fel symbol o heddwch a gobaith, ac yn aml yn ymddangos pan fo'r haul yn tywynnu yn dilyn glaw trwm. Maen nhw'n ein hatgoffa ni y daw eto haul ar fryn wedi cyfnodau anodd. Nod yr arddangosfa yw adlewyrchu ysbryd, gobaith a chymuned yn ystod y cyfnod heriol hwn. Bydd yr arddangosfa yn brofiad i ymgolli ynddo, yn gwtsh symbolaidd o’r caredigrwydd a'r cariad sydd ym mhob pwyth, i ymgorffori ein gobaith ni oll. 

Bydd tudalen ar wefan Amgueddfa Cymru yn rhan o'r arddangosfa fydd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, fideo ‘Straeon tu ôl i’r Sgwariau’ Arddangosfa Gobaith a thaith o gwmpas yr arddangosfa ei hun hefyd. 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r arddangosfa yn fuan iawn. Yn y cyfamser, dyma fideo byr am Arddangosfa Gobaith, yn cofnodi rhai o'r ffotograffau sydd wedi'u tynnu ers i'r project lansio. 

Cadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf. 

Diolch i The Ashley Family Foundation a Sefydliad Cymunedol Cymru am gefnogi'r project hwn. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.