Hafan y Blog

Celf a Geiriau: Ysgrifennu Barddoniaeth mewn Ymateb i Weithiau Celf

Rachel Carney, 22 Gorffennaf 2021

Ydych chi byth wedi pasio paentiad am ei fod yn edrych yn ddiflas? Beth petaech chi'n oedi, treulio amser yn ysgrifennu a gadael i'r geiriau fynd â chi ar daith annisgwyl?

Mae fy ymchwil yn edrcyh ar yr hyn sy'n digwydd pan fyddwn yn ysgrifennu barddoniaeth mewn ymateb i weithiau celf. Does dim rhaid iddi fod yn farddoniaeth ‘dda’, neu’n farddoniaeth sy’n ‘odli’. Does dim rhaid iddo edrych fel barddoniaeth hyd yn oed. Y bwriad yn syml yw arafu a gadael i ran wahanol o'ch ymennydd gymryd yr awenau – y rhan o'ch ymennydd sy'n pendroni mewn ffyrdd anymwybodol o bosib, gan drosi argraffiadau yn eiriau.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydw i wedi bod yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda grŵp o bobl o Rhondda Cynon Taf. Bob wythnos rydyn ni wedi treulio amser yn edrych ar ambell ddelwedd o gasgliad yr amgueddfa, ac yn ysgrifennu cerddi mewn ymateb. Bydd y cerddi hyn yn cael eu postio ar gyfrif Instagram Amgueddfa Cymru dros yr misoedd nesaf.

Ac fe hoffwn i wahodd pawb i gymryd rhan yng ngham nesaf y project. Does dim angen i chi fod yn awdur. Does dim ots os ydych chi'n casáu barddoniaeth! Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosib ymateb i'r delweddau a'r cerddi drwy ysgrifennu cerdd eu hunain. Os nad ydych yn siŵr sut, peidiwch â phoeni am ei rannu'n llinellau. Does dim angen i chi odli, na phoeni am sillafu ac atalnodi. Bydd pob ymateb creadigol yn wahanol, a bydd pob un yn rhoi persbectif newydd i ni ar waith celf.

Ar gyfer pob post bydd ychydig o awgrymiadau i'ch rhoi ar ben ffordd. Er enghraifft, gallech chi ddychmygu eich bod chi yn y paentiad, a dechrau drwy ysgrifennu rhestr syml o bethau y gallwch chi eu clywed, arogli, blasu, cyffwrdd neu eu gweld. Gallech chi ddewis ambell eitem o’r rhestr, a'u defnyddio fel sbardun i ysgrifennu rhywbeth hirach. Mae ysgrifennu rhydd yn arbennig o ddefnyddiol. Dechreuwch gyda thema, neu gwestiwn, neu air, a gorfodwch eich hun i ysgrifennu heb stopio am dair neu bedair munud (amserwch eich hun gyda stopwats eich ffôn). Gall y math hwn o ysgrifennu fynd â chi i gyfeiriadau hynod ddiddorol ac annisgwyl.

Nod y project hwn yw annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan, gan ymateb â'u meddyliau a'u hargraffiadau creadigol eu hunain. Wrth i fwy a mwy o gerddi gael eu hysgrifennu a'u rhannu, bydd y project yn dod yn fwy a mwy diddorol. Bydd pob ymateb yn rhoi dehongliad newydd inni o'r gwaith celf, ffordd newydd o weld a deall.

Felly rhowch gynnig ar ysgrifennu rhywbeth mewn ymateb i'r gweithiau celf anhygoel hyn, a rhowch wybod i ni sut hwyl gewch chi...

Mae Rachel Carney yn fardd, tiwtor ysgrifennu creadigol a myfyriwr PhD, yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chyd-oruchwyliaeth o Brifysgol Aberystwyth, dan nawdd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr . Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Fetropolitan Manceinion ac MA mewn Astudiaethau Amgueddfa o Brifysgol Newcastle, ac mae wedi gweithio yn y sector amgueddfeydd ers sawl blwyddyn. Cyhoeddwyd ei cherddi, erthyglau ac adolygiadau mewn nifer o gylchgronau a chyfnodolion, ac mae dwy o'i cherddi ar restr fer Gwobr Bridport. Dysgwch fwy am ei hymchwil ar ei blog, Created to Read.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Staff Amgueddfa Cymru
13 Hydref 2021, 15:20

Hi Gemma! To take part, just visit the Museum's Instagram page, where you can see the images, poems and prompts. You can either add your own poem as a comment to each Instagram post, or post the poem on your own account, tagging the Museum.

Gemma Jayne Paine
9 Medi 2021, 09:26
Hi Writing poetry in response to an art work.
I believe the response is to Gwen John however
how can you a poem be submitted to this project
Gemma Jayne Paine