Hafan y Blog

Prynhawn y Plant

Dan Mitchell, 6 Awst 2021

Os gofynnwch i blentyn ysgol gynradd beth fuon nhw’n wneud yn yr ysgol y diwrnod hwnnw, byddant yn aml yn sôn am amser chwarae. Amser chwarae yw'r amser pan maen nhw'n cael penderfynu’n union beth sy'n digwydd. Maen nhw'n cael dewis y gemau, y teganau, hyd yn oed y chwaraewyr, o fewn y paramedrau diogel a roddir iddynt. Ac o fewn y paramedrau hyn, maen nhw'n dysgu. Dysgu sut i symud a'r hyn y gallant wneud yn gorfforol. Dysgu sut i ymddwyn yn gymdeithasol, trwy rannu a gofalu. Dysgu sut i ddelio ag emosiynau pan nad yw'r gêm yn mynd eu ffordd. Mae amser chwarae yn hanfodol.

Ac mae'r dysgu'n dechrau ymhell cyn adeg ysgol. Prynhawn y Plant yw un o fy hoff ddigwyddiadau rheolaidd y mae'r amgueddfa'n ei gynnal. Mae'n gyfle i rieni ddod â'u rhai bach ar gyfer rhywfaint o chwarae dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd tawel a diogel. Rydyn ni yno i gynorthwyo, chwarae ychydig, a rhoi pâr ychwanegol o lygaid i rieni ar eu rhai bach. Y rhan orau yw bod hawl gennym ddefnyddio adnoddau’r tîm dysgu, a llunio profiad a thema wahanol bob tro.

Os yw'n ddiwrnod y jyngl, byddwn yn gosod yr ystafell gydag addurniadau chwarae meddal ar thema'r jyngl. Logiau meddal i blant bach ddringo drostynt, rygiau blewog gwyrdd i gropian drostynt. Yna gallwn ddod â'r anifeiliaid allan - y teigrod, y mwncïod, yr eliffantod. Gall plant chwarae gyda nhw, gan wneud straeon eu hunain ac ychwanegu synau a'u symudiadau eu hunain atynt. Hyd yn oed os nad yw plentyn yn siarad eto, mae copïo synau a symudiadau yn eu helpu i ddysgu.

Nid symudiad a sain yn unig y mae plant yn hoffi. Mae cyffwrdd yn hanfodol ar gyfer dysgu cynnar. Mae plant ifanc wrth eu bodd yn archwilio eitemau â'u dwylo, neu hyd yn oed â'u cegau, felly mae ein blychau teganau wedi'u llenwi â blociau syml y gellir eu glanhau yn hawdd iddynt eu harchwilio. Mae gennym lawer o flychau synhwyraidd thematig, wedi'u llenwi â ffwr ffug meddal, ffabrig lledr garw, a phob math o weadau rhyfeddol i'r rhai bach eu cyffwrdd a'u teimlo.

Pan fydd y plant wedi bennu ar chwarae, mae'n bryd cael stori. Mae gennym gasgliad enfawr o lyfrau plant hardd, sy'n addas ar gyfer unrhyw un o'n themâu, y gellir eu perfformio mewn modd bywiog neu dawel, gan ryngweithio â'r gynulleidfa neu beidio. Yr un peth rydyn ni wedi'i ddysgu yw sut i ddarllen y gynulleidfa ifanc.

Er bod pethau'n wahanol ar hyn o bryd, gydag ambell rhan o'r amgueddfa ar gau o hyd, rydym wedi llwyddo i lunio llawer o adnoddau ar-lein ar gyfer y plant bach. Mae gennym ni straeon, gweithgareddau celf a chrefft a llawer o symudiadau ac odl gwirion yn Gymraeg a Saesneg i'ch cadw chi i fynd nes ein bod ni'n gwbl agored eto.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sian Francis
8 Ionawr 2022, 15:02

Please could you send me information on the toddler sessions at the museum. Thankyou Sian Francis