Hafan y Blog

DIOLCH YN FAWR I’R GRONFA GELF.

Andrew Renton, 14 Rhagfyr 2021

Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i’r byd i gyd: pandemig Covid-19, yr anghyfiawnder cymdeithasol a amlygwyd gan ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, ac argyfwng hinsawdd sy’n teimlo’n gynyddol apocalyptaidd. Ar adeg fel hon, efallai eich bod chi’n dechrau amau beth yw gwerth celf.

Yn achos fy nghydweithwyr a minnau yn Amgueddfa Cymru, caiff y ddealltwriaeth bod celf yn bwysig i’n llesiant ac yn ffordd rymus o archwilio a mynegi syniadau ei hatgyfnerthu gan ein projectau Celf ar y Cyd, a ddatblygwyd i rannu’r celfyddydau ledled Cymru mewn ymateb i’r argyfwng iechyd. Rydyn ni wedi bod yn mynd â chelf i ysbytai i gefnogi staff a chleifion y GIG yn ystod y pandemig, ac fe sefydlon ni gylchgrawn ar-lein o’r enw Cynfas fel llwyfan newydd ar gyfer ymatebion creadigol a beirniadol i gasgliad celf Amgueddfa Cymru.

Mae llawer o’r gwaith celf ddefnyddion ni ar gyfer y projectau hyn wedi cyrraedd Amgueddfa Cymru gyda chefnogaeth elusen y Gronfa Gelf (artfund.org). Mae’r Gronfa Gelf wedi bod yn helpu’r Amgueddfa i gaffael gwaith ar gyfer casgliad celf cenedlaethol Cymru ers 1928, ac maent wedi bod yn gefnogwr allweddol drwy gydol y cyfnod clo wrth i ni barhau i weithio ar ddatblygu’r casgliad. Dyma rai enghreifftiau.

 

Fâs terracotta brown a du

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Magdalene Odundo, Anghymesur I, 2016, teracota
Prynwyd gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams
© Magdalene Odundo

 

I Magdalene Odundo, mae ei photiau’n cyfleu iaith ddynol fyd-eang. Mae gan Anghymesur I gymeriad anthropomorffig cryf, sy’n ymddangos fel pe bai’n cyfeirio at gorff benywaidd beichiog ac yn addo bywyd newydd. Gan dynnu ar draddodiadau Affricanaidd, mae’n pwysleisio grym potiau i wella ac i goffáu’r meirw, gan droi’r llestr hwn yn wrthrych huawdl i’r oes sydd ohoni.

 

blaen ty gyda dau ffenest a brigau a dail

 

 

 

 

 

 

 

Henri le Sidaner, Y Tŷ (La Maison), dim dyddiad, olew ar banel
Cymynrodd Daphne Llewellin o Frynbuga gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf

 

Un nodwedd a amlygwyd yn ystod y pandemig oedd y cysur mae pobl yn ei gael o fyd natur ac o fyw yn yr eiliad. Mae tri phaentiad bach Ffrengig o ddiwedd y 19eg ganrif a gaffaelwyd drwy’r Gronfa Gelf yn enghreifftiau da o sut mae artistiaid wedi bod yn arbennig o dda am hyn. Yn Y Tŷ, mae Henri Le Sidaner yn creu ymdeimlad o eiliad dawel o fyfyrio. Gallwch ddychmygu’r artist yn dabio paent yn gyflym ar draws ei banel bach i gyfleu’r golau a adlewyrchir oddi ar ffenestri a drws y tŷ hwn sydd wedi’i orchuddio â gwinwydd.

 

Golygfa o draeth gyda unigolion yn eistedd ar y tywod a cymylau yn yr awyr

 

 

 

 

 

 

 

Paul Delance, Traeth â Ffigyrau’n Eistedd (La côte déserte), 1900, olew ar banel
Cymynrodd Daphne Llewellin o Frynbuga gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf

llun o fryn gwyrdd gyda coed brown a dail gwyrdd

 

 

 

 

 

 

 

Paul Delance, Golygfa o Fryn, Sannois, Seine-et-Oise, 1890au, olew ar banel
Cymynrodd Daphne Llewellin o Frynbuga gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf

 

Yn Traeth â Ffigyrau’n Eistedd (La côte déserte) gan Paul Delance, gallwn deimlo’r artist yn gweithio’n gyflym ar draeth gwyntog ar arfordir Môr yr Iwerydd yn Ffrainc er mwyn cofnodi ymweliad iachusol â glan y môr gyda chyfeillion. Mae Golygfa o Fryn, Sannois, Seine-et-Oise yn waith personol iawn arall ganddo, y credir iddo gael ei baentio ar ôl marwolaeth ei wraig ym 1892, ac sy’n ei ddangos yn troi at gelf a natur fel ffynonellau cysur.

 

Tirlun o fynyddoedd Eryri tu ol i Gastell Dolbadarn a cwch ar Llyn Padarn

 

 

 

 

 

 

 

Paul Sandby, Llyn Llanberis, Castell Dolbadarn a’r Wyddfa (Llanberis Lake, Castle Dol Badern and the Great Mountain Snowdon), tua 1771, gouache ar bapur.
Prynwyd gyda chefnogaeth Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf a chymynrodd gan Mary Cashmore
Llun © Sotheby’s

 

Mae tirwedd Cymru wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a phleser ers amser maith. Dyma ddarganfu Paul Sandby ym 1771, pan aeth ar daith i ogledd Cymru yng nghwmni'r tirfeddiannwr ifanc a'r noddwr celf Syr Watkin Williams-Wynn. Mae ei gyfres hyfryd o 21 golygfa o’r daith hon yn dangos bod y twristiaid arloesol yn ymhyfrydu yn eu darganfyddiad o’r tir dramatig hwn. Un uchafbwynt oedd y daith ar gwch i Gastell Dolbadarn, yng nghysgod yr Wyddfa.

 

9 ffotograff du a gwyn o strwythurau diwydiannol

 

 

 

 

 

 

 

 

Bernd a Hilla Becher, Gweithfeydd Paratoi, 1966-1974, printiau arian gelatin
Prynwyd gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Henry Moore
© Ystâd Bernd a Hilla Becher

 

Mae treftadaeth ddiwydiannol Cymru hefyd wedi cynnig testun cyfoethog i artistiaid. Roedd yr artistiaid o’r Almaen, Bernd a Hilla Becher, yn fwyaf adnabyddus am eu teipolegau, sef ffotograffau o un math o strwythur diwydiannol wedi’u trefnu yn gridiau. Mae Gweithfeydd Paratoi, 1966-1974 yn cynnwys naw ffotograff a dynnwyd gan Bernd a Hilla ar ymweliadau â Phrydain rhwng 1966 a 1974, gan gynnwys pyllau glo’r de fel Glofeydd Penallta, Fernhill, y Brittanic a’r Tŵr. Gydag ecosystem ddiwydiannol gyfan y Cymoedd wedi diflannu erbyn hyn, mae’r delweddau hyn yn teimlo fel rhyw fath o gofeb.

 

gwaith celf gyfoes mewn oriel gyda waliau pinc a melyn

 

 

 

 

 

 

 

Anna Boghiguian, A meteor fell from the sky, 2018, gosodwaith amlgyfrwng
Prynwyd gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams
Diolch i'r artist.

 

Pan wahoddwyd yr artist o Cairo, Anna Boghiguian, i gymryd rhan yn arddangosfa Artes Mundi 8 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fe ymdrochodd yn hanes diwydiant Cymru. Mae ei gosodwaith A meteor fell from the sky yn creu cysylltiadau rhwng Gweithfeydd Dur Tata Port Talbot a gweithfeydd dur y cwmni yn India, gan ganolbwyntio ar weithwyr dur a’u brwydr dros eu hawliau.

 

 

 

 

 

 

 

John Akomfrah, Vertigo Sea, 2015, gosodwaith fideo tair sianel

Wedi’i gaffael ar y cyd gyda Towner Eastbourne gyda chefnogaeth gan y Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson), Ymddiriedolaeth Derek Williams, Ymddiriedolaeth The Search drwy’r Gymdeithas Celf Gyfoes a Chronfa Ddatblygu Casgliad Towner.
© Ffilmiau Smoking Dogs. Diolch i Oriel Lisson

 

Mae gosodwaith fideo John Akomfrah Vertigo Sea yn fyfyrdod grymus ar gamdriniaeth dynoliaeth o’r môr, o’r fasnach gaethweision a mudo modern i ddinistr yr amgylchedd morol. All y gwaith ddim bod yn fwy perthnasol i’n hoes ni heddiw, a gellir ei weld nawr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn yr arddangosfa Rheolau Celf?

 

Andrew Renton
Ceidwad Celf

Andrew Renton

Pennaeth Casgliadau Dylunio
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.