Hafan y Blog

Amgueddfa Cymru yn ennill Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr!

Ffion Davies, 27 Ionawr 2022

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ennill Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am y trydydd tro.

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn wobr safon ansawdd ar gyfer Rheoli Gwirfoddolwyr.

Allen ni ddim bod wedi gwneud hyn heb waith caled ac ymroddiad ein staff a'n gwirfoddolwyr gwych. Diolch yn fawr!

Wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiadau asesu, yr uchafbwynt i ni oedd y sylw hwn...

"Dywedodd gwirfoddolwyr eu bod yn teimlo bod eu cyfraniad yn ystyrlon, a'u bod wedi mwynhau eu rolau. Roedd y rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn dweud pa mor groesawgar oedd yr Amgueddfa. Dywedodd un gwirfoddolwr eu bod yn teimlo fel rhan o deulu."

Mae gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser, sgiliau, arbenigedd a brwdfrydedd i Amgueddfa Cymru bob blwyddyn. Elusen ydym ni, ac mae eich cefnogaeth chi yn helpu i gyfoethogi a dod a safbwyntiau newydd i'n hamgueddfeydd cenedlaethol.

Os hoffech chi gymryd rhan, ewch i Cymryd Rhan | Amgueddfa Cymru (amgueddfa.cymru)

@WCVACymru

#BuddsoddiMewnGwirfoddolwyr

 

Ffion Davies

Rheolwr Gwirfoddolwyr a Lleoliadau
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.