Hafan y Blog

Canlyniadau Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion 2021-22

Penny Dacey, 1 Gorffennaf 2022

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwyf wedi cael amser diddorol yn llunio adroddiad diwedd blwyddyn ar gyfer Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Rwyf wedi atodi'r adroddiadau ar y dde, ond gadewch i ni edrych yn gyflym ar rai o'r uchafbwyntiau! 

Cofiwch mai ein cofnodion tywydd yn cael eu cadw rhwng Tachwedd a Mawrth bob blwyddyn, sy’n golygu bod cofnodion pob blwyddyn yn cynnwys data o fis Tachwedd a Rhagfyr y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft, pan fydd yr adroddiad yn sôn am ganlyniadau 2012, mae’n cyfeirio at ddata a gofnodwyd rhwng Tachwedd 2011 a Mawrth 2012.

Gallwn weld o'r siart fod tymheredd 2022 yn gymharol uchel o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Eleni gwelwyd y tymheredd ail uchaf ym mis Chwefror ers dechrau'r project. Mae’r Swyddfa Dywydd wedi nodi taw Chwefror 2022 oedd y pumed cynhesaf a gofnodwyd (o gofnodion syn dyddio’n ôl i 1919).

 

Gallwn ni weld o'r siart taw 2022 oedd y pedwerydd flwyddyn cynhesaf ers dechrau'r project, gyda thymheredd cyfartalog o 5.86ᵒC. Y tymheredd cyfartalog ar gyfer y cyfnod hwn yw 5.2ᵒC. 

Mae’r siart yn dangos cafodd 2022 yr oriau cyfartalog isaf ac uchaf o heulwen ers dechrau'r project. Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan mai 2022 oedd y mis Rhagfyr mwyaf gwlypaf ers 1956! Gwelodd hefyd yr Ionawr mwyaf heulog a'r ail Fawrth mwyaf heulog yn seiliedig ar gofnodion yn dyddio'n ôl i 1919.

Dim ond un flwyddyn welodd mwy o oriau o heulwen na 2022 ers dechrau'r project. Mae yna 25 o oriau rhwng y flwyddyn a welodd yr oriau o olau haul cyfartalog mwyaf (2012) a'r flwyddyn welodd yr oriau o olau haul isaf (2016).

Gallwn weld o’r siart gwelodd 2022 y glawiad cyfartalog isaf o’n hymchwiliad ar gyfer Tachwedd ac Ionawr a’r ail isaf ar gyfer Mawrth. Mewn cyferbyniad, gwelodd y trydydd glawiad uchaf yn Chwefror. Mae’r swyddfa Dywydd wedi nodi taw mis Chwefror 2020 oedd y gwlypaf a gofnodwyd mewn cyfres sy'n dyddio'n ôl i 1862.

 

Gallwn ni weld o'r siart taw 2022 oedd y  flwyddyn sychaf ers dechrau'r project, gyda glawiad cyfartalog o 90mm. 2016 oedd blwyddyn wlypaf y project o bell ffordd, gyda glawiad cyfartalog o 158mm.

Mae ein canlyniadau'n dangos gwnaeth planhigion blodeuo'n cynharaf yng Nghymru a'r diweddaraf yn yr Alban. Yr Alban oedd y wlad oeraf hefo'r lleiaf o oriau haul.

 

Blodeuodd y ddau blanhigyn yn gynharach na'r cyfartaledd cyffredinol eleni. Mae’n ddiddorol cymharu canlyniadau 2022 gyda chanlyniadau cyfartalog yr holl broject. Mae'r tabl yn dangos y gwelodd 2022 dymheredd ac oriau o heulwen uwch a glawiad is na'r cyfartalog!

 

Mae’r siart far hon yn dangos yr oriau cyfartalog o haul rhwng Tachwedd a Mawrth am y blynyddoedd rhwng 2006 a 2022 ar gyfer Cymru. Mae’n ddiddorol i nodi a gwelodd y blynyddoedd 2006-2012  oriau uwch na’r cyfartalog o oriau haul ac ers hynny dim ond un flwyddyn (2015) sydd wedi gweld oriau uwch na’r cyfartalog.

Mae’r gwahaniaeth rhwng cyfartaleddau Cymru a chyfartaleddau’r DU yn amlygu’r amrywiadau lleol a all ddigwydd. Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi amrywiadau lleol diddorol yn eu hadroddiadau hinsawdd ddiweddaraf. Mesurir hinsawdd mewn cyfnodau o 30 mlynedd, yn unol â chanllawiau Sefydliad Meteoroleg y byd. Mae cymhariaeth rhwng y cyfnodau 1961-1990 a 1991-2020 wedi datgelu cynnydd mewn tymheredd (+0.8°C), glawiad (+2.3%) a heulwen (+5.6%) ar gyfer y DU.

Bydd yn ddiddorol i weld pa batrymau a ddaw i’r amlwg o’n canlyniadau wrth i’n hymchwiliad hirdymor barhau. Diolch am eich cyfraniad i'r ymchwiliad eleni a gobeithio y byddwch yn dilyn ein hymchwiliad 2022-23 o fis Medi.

Gwaith gwych Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.