Hafan y Blog

Diweddariad ar broject Gardd Ein Hamgueddfa Medi 2022

Sian Taylor-Jones, 30 Medi 2022

Mae gwirfoddolwyr 'Gardd Ein Hamgueddfa' yn parhau gyda'r gwaith o wella tir Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Maen nhw wedi bod yn clirio llwyni marw ac eiddew sydd wedi tyfu'n wyllt, yn ogystal â phlannu ardaloedd newydd ac edrych ar ôl y Ddôl Drefol.

Y newid mwyaf amlwg yw’r gwaith clirio a phlannu border blodau newydd. Mae dau gaergawell bach yn yr ardal hon, yn llawn cerrig, canghennau a moch coed i ddarparu cynefin i bryfed. Mae planhigion wedi'u dewis yn arbennig er mwyn denu peillwyr, yn ogystal â chreu ardal groesawgar i ymwelwyr. Bydd yr ardal yn llawn lliw erbyn yr haf nesaf. Gobeithio bydd gennym ni gaergewyll mwy yn yr ardd dros y misoedd nesaf hefyd.

Mae'r perlysiau wedi tyfu'n dda er gwaetha'r tywydd poeth dros yr haf – mae'r rhosmari (Salvia rosmarinus) a lafant (Lavandula) wedi bod yn ffynnu o dan amodau perffaith. Mae tafod y fuwch (Borago officinalis) wedi ymgartrefu hefyd, gan ledaenu hadau ymhobman.

Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn edrych ar ôl y Ddôl Drefol. Cynhaliom arolwg ‘Every Flower Counts’ eto ym mis Gorffennaf, gan ddarganfod ystod eang o flodau gwyllt. Rydym hefyd wedi mwynhau gweld gwyfynod bwrned, chwilod milwrol, ceiliogod rhedyn, chwilod blodau a llawer iawn o wyfynod claergoch yn ystod yr arolwg.

Ar ddechrau mis Medi, daeth Matthew Collinson atom ni i'n dysgu sut i dorri gwair y ddôl gyda phladur. Roedd yn waith caled, ond dysgom lawer am sut i reoli'r ddôl.

Mae gennym dri phroject mawr i’w cwblhau dros y misoedd nesaf. Mae'n mynd i fod yn gyfnod prysur, a byddwn ni wrth ein bodd i gael rhagor o wirfoddolwyr i'n helpu ni. Os hoffech chi helpu gyda'r projectau hyn, mae manylion ar sut i wirfoddoli ar eiun gwefan: Cyfleoedd Cyfredol - Gwirfoddoli | Amgueddfa Cymru. Mae gennym ni welyau uwch i'w gosod a'u plannu, gardd ar y to sydd angen ei hadnewyddu, a chaergewyll i'w hadeiladu.

Ariennir y project hwn gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weithredir gan y CGGC.

Sian Taylor-Jones

Cydlynydd Project Gardd Amgueddfa Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.