Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Croeso i Sgrinwyna 2023!

Ffion Rhisiart, 2 Mawrth 2023

Wrth i arwyddion cyntaf y Gwanwyn ddechrau ymddangos, gall hynny olygu un peth yn unig yma yn Sain Ffaganmae’n bryd paratoi ar gyfer tymor wyna arall! Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer ohonoch chi’n edrych ymlaen at #sgrinwyna, a gyda dros 380 o ŵyn ar y ffordd mae’n mynd i fod yn flwyddyn brysur arall i Dîm Ffermio’r Amgueddfa.

 

Caiff Sgrinwyna ei redeg gan dîm bychan a diwyd a fydd yn ffrydio’r cyffro yn fyw o’n sied wyna ar 6-19 Mawrth rhwng 8am-8pm (GMT). Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ag Emma y bugail a’r staff profiadol sydd wrth law yn ystod y dydd a thrwy’r nos yn gofalu am y defaid a’u hŵyn, a byddwn yn dod â diweddariadau am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol dros nos y bore canlynol. 

 

Mae dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Tom a Mari, yn ymuno â thîm Sgrinwyna eleni hefyd, a bydd y ddau ohonynt yn cymryd eu tro yn rheoli’r camera yn ogystal â ffilmio ar Fferm Llwyn-yr-eos i ddod â chynnwys y tu ôl i’r llenni i chi ar gyfer Sgrinwyna+. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i rannu’r fideos hynny gyda chi drwy gydol mis Mawrth – cadwch lygad ar dudalen we Sgrinwyna a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Cymru i ddilyn yr holl gyffro. 

 

Cafodd ein 259 o ddefaid magu eu sganio tua’r Nadolig a’u marcio â dotiau oren i ddangos a ydynt yn disgwyl 1, 2 neu 3 oen. (Dydyn ni ddim yn disgwyl dim cwads eleni, ond pwy a ŵyr, maen nhw wedi bod yn sypreis y ddau dro i ni gael cwads yn y gorffennol!) Yna symudwyd y defaid beichiog i'r siediau wyna yn gynnar ym mis Ionawr ar gyfer rhywfaint o faldod cyn geni. Ar yr adeg hon, cafon nhw hefyd eu gwahanu’n gorlannau gyda’r rhai oedd yn disgwyl oen sengl mewn un grŵp a’r rhai’n disgwyl gefeilliaid neu dripledi yn y llall. 
 
Dyma nodyn

Ffion Rhisiart

Swyddog Digwyddiadau
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.