Hafan y Blog

Newid yn y tymhorau

Penny Dacey, 3 Mawrth 2023

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Diolch i bob ysgol sydd wedi rhannu eu data tywydd hyd yn hyn. Cofiwch gysylltu â mi os oes angen unrhyw help gyda hyn. Bydd pob ysgol sy'n cofnodi data i wefan Amgueddfa Cymru yn derbyn gwobrau ar ddiwedd y prosiect, gan gynnwys pensiliau a thystysgrifau gwyddonwyr gwych!

Mae gwanwyn yn y DU yn dechrau yn fis Mawrth. Mae pryd ym  Mawrth yn dibynnu ar ba ddiffiniad rydych chi'n ei ddefnyddio. O'r diffiniad Meteoroleg mae gwanwyn yn dechrau ar 1 Mawrth ac o'r diffiniad Seryddol mae'n dechrau ar 20 Mawrth (Cyhydnos y Gwanwyn). Dyma'r tymor y bydd y rhan fwyaf o blanhigion yn blodeuo ac anifeiliaid bach yn cael eu geni. Mae oen bach yn y caeau yn arwydd da bod y gwanwyn wedi cyrraedd! Dilynwch Sgrin Wyna Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i weld faint o ŵyn sydd yn cael eu geni yno!

Mae yna bedwar tymor mewn blwyddyn: gaeaf, gwanwyn, haf a hydref. Mae hi’n dal yn aeaf ar hyn o bryd, y tymor oeraf.

Mae’r gwanwyn yn dechrau o gwmpas Mawrth yr 20fed (Cyhydnos y Gwanwyn) a dyma’r tymor lle bydd y rhan fwyaf o blanhigion yn blodeuo ac anifeiliaid bach yn cael eu geni wrth i’r tywydd gynhesu. Mae ŵyn bach yn y caeau yn arwydd da bod y gwanwyn wedi cyrraedd!

O fis Mehefin tan fis Medi bydd hi’n haf – y dyddiau’n hir a’r tywydd yn gynnes. Yn lwcus i chi, byddwch yn cael gwyliau hir o’r ysgol!

Bydd yr hydref yn gafael o ddiwedd Medi ymlaen – y dyddiau yn byrhau, y tywydd yn oeri, a’r dail yn troi’n oren, coch a brown cyn syrthio o’r coed. Daw’r gaeaf unwaith eto ym mis Rhagfyr a bydd yn aros efo ni tan ganol Mawrth.

Ydych chi’n gwybod pam ein bod yn cael tymhorau? Beth sy’n achosi i’r tywydd newid mor ddramatig yn ystod y flwyddyn? Mae’n digwydd achos bod y Ddaear yn troi o amgylch yr Haul ar ongl. Mae’r llun isod yn dangos y Ddaear a’r Haul. Mae’r Ddaear yn cylchdroi ar echel (dychmygwch linell yn cysylltu Pegwn y Gogledd â Phegwn y De) wrth symud o amgylch yr Haul.

Mae’n cymryd 365 diwrnod i’r Ddaear deithio unwaith o amgylch yr Haul. Hyd blwyddyn ar blaned yw’r amser mae’n gymryd i deithio o amgylch ei seren unwaith. Felly mae blwyddyn ar y Ddaear yn para 365 diwrnod.

Mae’r llun uchod yn dangos llwybr y Ddaear o amgylch yr Haul. Yr echel yw’r llinell wen trwy’r ddau begwn. Mae’r echel ar ongl wahanol i lwybr y Ddaear o amgylch yr Haul (y llinell wen doredig). Mae hyn yn golygu ein bod ar ongl fymryn yn wahanol i’r Haul bob dydd. Dyma sy’n achosi’r newid yn hyd y dydd. Mae dyddiau byrrach (gaeaf) yn golygu llai o olau a llai o wres, sy’n gwneud y gaeaf yn oerach. Mae dyddiau hirach (haf) yn golygu mwy o olau a gwres, sy’n ei gwneud yn gynhesach!

Mae’r DU yn ‘Hemisffer y Gogledd’ sy’n golygu ein bod yn nes at Begwn y Gogledd nag at Begwn y De. Yn y llun, mae Pegwn y Gogledd (y llinell wen sy’n pwyntio am i fyny) yn gwyro i gyfeiriad yr Haul ym mis Mehefin ac oddi wrth yr Haul ym mis Rhagfyr. Yr ongl hon sy’n achosi’r newid yn hyd y dyddiau wrth i’r Ddaear droi o amgylch yr Haul.

Mae gwledydd eraill yn profi’r newidiadau hyn ar wahanol adegau. Yn Awstralia mae’n haf ym mis Rhagfyr! Ac yng Ngwlad yr Iâ mae’n olau dydd am ddyddiau ar y tro yn yr haf, ac yn dywyll am ddyddiau yn y gaeaf... dychmygwch yr haul yn tywynnu am hanner nos!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.