Hafan y Blog

Gwanwyn yn gerddi Sain Ffagan

Elin Barker - Cadwraethwr gardd dan hyfforddiant, 5 Mawrth 2023

Wrth i'r gwanwyn nesáu, mae pob dydd yn adrodd stori newydd yn yr ardd. Mae’r eirlysiau’n diflannu ac yn gwneud lle i’r crocysau, briallu a’r cennin pedr lliwgar. Mae’r hellebores wedi cyrraedd hefyd, gyda’u blodau pert siâp cwpan a’u patrymau petalau manwl. Maen nhw’n darparu byrst o liw ac maen nhw bob amser i’w gweld yn disgleirio hyd yn oed ar ddiwrnodau mwyaf llwyd y gwanwyn.

Fel sy’n arferol yr adeg yma o’r flwyddyn, mae garddwyr Sain Ffagan wedi bod yn gweithio’n galed yn cynllunio borderi newydd ac yn paratoi’r ddaear ar gyfer y tymor newydd. Eleni, fodd bynnag, mae pryderon newid hinsawdd a phrinder dŵr wedi gwthio’r tîm i edrych am ffyrdd newydd o ddylunio gerddi a all arbed dŵr ac fydd yn gwneud cystal mewn hinsawdd sych.

Un ateb creadigol rydyn ni wedi datblygu yw'r "ffin arian," bydd yr ardd hon yn arddangos planhigion gyda dail ariannaidd neu lwyd sydd wedi esblygu i ddioddef amodau sych. Mae lliw golau’r dail yn adlewyrchu golau'r haul ac yn amddiffyn y planhigyn rhag ei effeithiau niweidiol. Mae rhai o'r planhigion hyn hefyd yn cynnwys blew man ar eu dail neu goesynnau, syn cadw lleithder yn feinwe'r planhigyn, sydd yn helpu nhw byw mewn hinsawdd sychach. Bydd y border arian yn ffordd ymarferol o arbed dŵr ac ar yr un pryd yn ychwanegiad unigryw a hardd i'r ardd.

Ardal arall rydym wedi bod yn datblygu yw’r ffin llwyni bywyd gwyllt sydd ar y ffordd i’r Ardd Eidalaidd. Y syniad tu ôl i'r ardal hon oedd I greu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Unwaith y bydd wedi'i sefydlu, bydd yr ardal yma yn helpu rhoi cartref i adar, pryfed a mamaliaid. Rydyn ni wedi dewis llwyni, fel Sambucus nigra, Holodiscus discolor a Viburnum opulus sydd â blodau llawn neithdar a fydd yn cynnal peillwyr. Yn ogystal â hyn, wrth i'r llwyni aeddfedu, byddant yn ffynhonnell werthfawr o fwyd i fywyd gwyllt mewn ffurf hadau ac aeron.

Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi bod yr ardd Iseldiraidd ger y Castell yn mynd trwy drawsnewidiad sylweddol bob gwanwyn wrth i’r gweiriau addurniadol a’r planhigion lluosflwydd gael eu torri’n ôl yn galed cyn i’r tyfiant newydd ddechrau. Yn ystod tymor y gaeaf, rydym yn dewis gadael y pennau hadau a'r coesynnau yn gyfan gan eu bod yn gynefin gwych i fywyd gwyllt ac mae nhw‘n cynnig elfennau strwythurol i'r ardd gydag amrywiaeth o weadau a lliwiau tymhorol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gael gwared ar yr holl hen dyfiant o'r flwyddyn flaenorol, bydd hyn yn annog tyfiant newydd iach o waelod y planhigion. Eleni fe benderfynon ni ailddefnyddio’r toriadau gwair gwastraff fel tomwellt ar y gwely pwmpen, bydd hyn yn helpu i atal y chwyn a chadw lleithder yn y ddaear.

Wrth i ni symud ymlaen, mae’n hollbwysig ystyried sut gallwn ni ymarfer garddio mewn cydweithrediad â natur. Mae garddio yn golygu ymdrechu i sicrhau cydbwysedd rhwng gwneud i lefydd edrych yn hardd ar yr wyneb ond o dan yr wyneb cael dyluniad cynaliadwy.

Elin Barker

Gofalydd
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.