Hafan y Blog

#fflachamgueddfa

Heledd Fychan, 6 Hydref 2014

Wel, mae'r wythnos wedi cyrraedd. Ar ôl misoedd o gynllunio a thrafod, yn hwyrach yr wythnos hon, bydd y #fflachamgueddfa yn cael ei wireddu. Er bod gennym eisoes rhai straeon yn barod i rannu fel rhan o'r #fflachamgueddfa a rhai gwrthrychau o’r amgueddfa i arddangos, fel Billy y Morlo, y gwir yw, nid oes gennym unrhyw syniad beth fydd ffurf derfynol yr amgueddfa hon gan ei fod yn llwyr ddibynnol ar bobl sy'n dod i Ganolfan y Mileniwm ar ddydd Iau a dydd Gwener (9 a 10 Hydref) gyda'u straeon a / neu wrthrychau sy'n ymwneud â, neu ‘n eu hatgoffa o Gaerdydd.

Dyma sut y bydd yn gweithio. Bydd y #fflachamgueddfa  yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm, a bydd rhywun yno o 9:00-17:30 ar y ddau ddiwrnod. Gallwch naill ai roi gwrthrych a'i adael gyda ni, gyda disgrifiad ysgrifenedig neu sain ohono, neu gallwch gael eich llun wedi'i dynnu gyda'r gwrthrych. Os byddwch yn dewis gadael unrhyw beth gyda ni, bydd yn cael ei dychwelyd atoch ar ôl i’r #fflachamgueddfa ddod i ben! Fel arall, os oes gennych stori, gallwch naill ai ei hysgrifennu i lawr neu gael eich ffilmio yn adrodd yr hanes ni, a bydd yn cael ei ddangos fel rhan o'r #fflachamgueddfa.

Dal i fod gyda mi? Da iawn...

Bydd popeth yn wych os yw pobl yn troi fyny. Felly, dyma pam mae angen eich cymorth chi arnom. Wnewch chi os gwelwch yn dda ledaenu'r neges, drwy siarad am y prosiect gyda ffrindiau a theulu a’n helpu i hyrwyddo trwy gyfryngau cymdeithasol. Nid oes rhaid i wrthrychau fod yn rai gwerthfawr neu'n nodweddiadol o amgueddfa. Gall fod yn ddoniol, od, rhyfedd, difrifol, syfrdanol- yn wir, unrhyw beth dan haul cyn belled â bod ganddo stori ynglÅ·n â Chaerdydd. Gall olygu rhywbeth i chi yn bersonol neu gall fod yn rhan o'r stori sefydliad neu gwmni yng Nghaerdydd. Dyma eich cyfle i greu math gwahanol o amgueddfa.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch heledd.fychan@amgueddfacymrmu.ac.uk neu @heleddfychan

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.