Hafan y Blog

Dyddiadur Kate: Bwydo’r boblogaeth

Elen Phillips, 29 Mai 2015

Ym Mawrth 1915, agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel yn y Frongoch, gerllaw’r Bala. Mewn blog blaenorol, fues i’n trafod ymateb Kate a’r wasg leol i ddyfodiad yr Almaenwyr i Sir Feirionnydd. Er gwaetha’r gofid cychwynol, erbyn canol 1915 penderfynwyd y dylid defnyddio’r carcharorion er budd yr ymgyrch rhyfel. Yn wyneb prinder llafur, ym Mehefin 1915 rhoddod Ynadon Penllyn ganiatad i’r carcharorion weithio ar ffermydd cyfagos:

Yr ydym ni Ynadon Dosbarth Penllyn, yn dymuno datgan ein barn y bydd prinder llafurwyr amaethyddol yn y dosbarth yn ystod y cynhauaf agoshaol, a gorchwyl ereill, ac felly yn dymuno datgan ein barn mai da fyddai i’r awdurdodau milwrol ganiatau i’r Germaniaid sy’n garcharorion yn Frongoch gael eu llogi at wasanaeth ffermwyr y dosbarth. Yr Adsain 22 Mehefin 1915

Yn ôl Robin Barlow, bu dros 1,000 o garcharorion Almaenaidd o’r Frongoch yn gweithio ar ffermydd yr ardal. Wrth chwilota drwy wefan Papurau Newydd Cymru Arlein, daw hi’n amlwg nad menter leol yn unig oedd hon. Er enghraifft, mae’r Denbighshire Free Press yn nodi’r canlynol yn Nhachwedd 1919:

REPATRIATION OF GERMANS: On Monday, the 24th October, all the Germans prisoners at Bathafarn Hall, with the exception of ten left behind to clean up, were returned to the Migrating Camp at Fron Goch, near Bala, and the others have since followed. Captain Bennet, camp commandant for Denbighshire, who has been in charge at Bathafarn, reports that farmers testify to the very good work done on farms by the prisoners.

Ond pam fod angen cymorth y carcharorion ar ffermydd ardal y Bala? Yn ei dyddiadur, mae Kate eisoes wedi nodi ymadawiad Robert Daniel Jones o’r Derwgoed. Ymunodd ef â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mawrth 1915. Roedd Bobbie Penyffordd wedi ymrestru yn Awst 1914, a chyn diwedd 1915 roedd o leiaf dau arall o gymdogion Kate wedi ymuno â’r lluoedd – Tomi’r Hendre ac Ivor Erwfeirig.

Erbyn 1916, roedd y Bwrdd Masnach yn amcangyfrif fod gweithlu amaethyddol Cymru a Lloegr wedi gostwng 33% ers dechrau’r rhyfel (nid yw’r ffigwr hwn yn cymryd menywod i ystyriaeth). Yn ogystal â’r prinder llafur, daeth bwydo’r boblogaeth yn boen meddwl wrth i’r rhyfel lusgo yn ei flaen. Roedd gaeaf 1915 a gwanwyn 1916 yn ddychrynllyd o oer a gwlyb, ac fe gafodd hyn effaith andwyol ar gynhaeaf y flwyddyn honno. Ar ben y cwbl, roedd si ar led fod yr Almaenwyr yn cynllunio i dargedu mewnforion gyda’u llongau tanfor. O ganlyniad i hyn oll, ymatebodd y llywodraeth drwy annog y boblogaeth i dyfu cnydau a bod yn ddyfeisgar gyda chynhyrchu bwyd. Mae’r fowlen siwgr hon o gasgliad yr Amgueddfa yn cynnwys neges o anogaeth gan David Lloyd George:

I HAVE NO HESITATION IN SAYING THAT ECONOMY IN THE CONSUMPTION & USE OF FOOD IN THIS COUNTRY IS A MATTER OF THE GREATEST POSSIBLE IMPORTANCE TO THE EMPIRE AT THE PRESENT TIME

Mae modd gweld rhagor o wrthrychau sy’n gysylltiedig â bwyd ac amaethyddiaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar ein gwefan.

 

 

Elen Phillips

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.