: Oriel 1

Noah's Ark

Sian Lile-Pastore, 2 Ebrill 2012

These photos are from february half term, but I'd forgotten to put them on the blog until now (in fact I thought I had put them on the blog already but I must have just popped a few on twitter...).

It may be hard to tell but the art work is based on the mural of Noah's Ark in the church here in St Fagans: National History Museum. I drew the ark on a large piece of paper and asked the children to add animals to it - some they had drawn themselves and some coloured in from pictures provided. I also drew a couple of pictures of a devil and a dragon based on those in the church and they went down a storm! I must remember to bring those nasty creatures back round about halloween!

There will be drop in art sessions over the may bank holiday, so please come by and say hello!

Sian

Edrych ar Adeiladau efo Ysgol Coedybryn

Sian Lile-Pastore, 29 Mawrth 2012

Daeth Ysgol Coedybryn draw heddi i wneud y sesiwn celf 'edrych ar adeiladau'. Dyma luniau o peth o'r gwaith. Mae nhw wedi gwneud modelau ardderchog o ffermdy Llwyn yr eos a'r eglwys.

cockpit and post office

Sian Lile-Pastore, 28 Mawrth 2012

Hello!

Just a few pictures of models of buildings made by Cardiff Muslim Primary School when they came here the other week.

They are models of the cockpit and the post office, and are pretty splendid too! look at that thatch!

Sesiynau Crefft

Sian Lile-Pastore, 30 Ionawr 2012

Rydyn ni wedi bod yn cynnal clwb cwiltio am ychydig dros flwyddyn ac erbyn hyn mae criw da yn dod yn rheolaidd ar y Sadwrn cyntaf bob yn ail fis am sesiwn glytwaith a sgwrs. Mae’n rhaid bod tipyn wedi gwneud adduned blwyddyn newydd gan fod dwbl yr aelodau yn y clwb y tro diwethaf gyda nifer o wynebau newydd yn ymuno â ni.

Samantha Jenkins sy’n arwain y clytwaith a’r cwiltio a gallwch chi weld peth o’i gwaith yma. Mae ganddi syniadau di-ri a gall ddatrys unrhyw broblemau clytwaith!

Roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd rhoi cynnig ar sesiynau crefft gwahanol i oedolion, gan ddilyn patrwm y clwb cwiltio (awyrgylch hamddenol, anffurfiol ond gyda arbenigwr yno i’ch helpu) a rhoi cyfle i chi droi eich llaw at weu, gwneud rygiau rhacs, printio llaw neu frodio. Ewch i dudalennau ‘digwyddiadau’ y wefan am ragor o wybodaeth, a cofiwch bod nifer cyfyngedig o lefydd.

I roi syniad i chi o’r trefniadau, bydda i yng ngofal y sesiwn brintio, a byddwn ni’n edrych ar ddyluniadau hyfryd o’r 1950au er mwyn sbarduno syniadau printio, creu blodiau printio syml o bren meddal (tebyg i leino, ond yn well) a phrintio ar bapur a ffabrig. Rydw i wedi troi un o fy mhrintiau yn dlws ffabrig, a byddai’n gweithio hefyd fel rhan o gwilt clytwaith.

Bydd Amy Wheel yng gofal y sesiwn weu ac yn defnyddio rhai o’r hosanau yn y casgliad fel ysbrydoliaeth. Mae Amy yn wyneb cyfarwydd yn y clwb cwiltio ac mae hefyd yn gweu yn gampus ac yn fenyw hyfryd, felly dylai fod yn sesiwn hwyliog! Os ydych chi’n gweu yn barod, gallwch chi roi cynnig ar wneud hosan, neu os ydych chi’n ddechreuwr, gallwch chi ddysgu a chreu rhywbeth wedi’i seilio ar yr esiamplau.

Bydd Jane Dorsett yn arwain y sesiynau rygiau rhacs ac mae’n gofyn i chi dod â bag o ddillad gwastraff glan – mae hen grysau t yn berffaith meddai hi. Mae Jane wedi cynnal nifer o sesiynau rygiau rhacs gydag ysgolion, grwpiau cymunedol ac orielau, a cofiwch archebu mewn da bryd gan fod diddordeb mawr yn y sesiwn yn barod!

Becky Adams fydd yng ngofal y sesiynau brodio, a bydd yn seilio peth o’i chynlluniau ar y casys nodwyddau sydd yng nghasgliadau Sain Ffagan: Amgueddfa Cymru. Roedd Becky yn arfer gweithio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar ein project Cofroddion, ac mae’n cynnal sesiynau celf a chrefft amrywiol i bobl o bob oed ac yn artist talentog ei hun.

Rwyf wedi ychwanegu rhai lluniau i ddangos gwaith y clwb cwiltio. Os oes gennych chi ffotograff sy’n dangos datblygiad eich gwaith, anfonwch e-bost ata i gan ei bod hi’n wych gweld sut hwyl mae pawb yn ei gael arni! Fy nghyfeiriad e-bost yw sian.lile@amgueddfacymru.ac.uk

Dyma dyddiadau’r sesiynau i chi lenwi’ch dyddiadur. Mae’n rhaid archebu gan fod nifer cyfyngedig o lefydd, felly ffoniwch (029) 2057 3414 i gadw lle.

3 Mawrth 11am-12.30pm – Clwb Cwiltio

17 Mawrth 11am-12.30pm – Gweu

31 Mawrth 11am-12.30pm – Brodio

14 Ebrill 11am-12.30pm – Printio

28 Ebrill 11am-12.30pm – Brodio

12 Mai 10.30am-12.30pm – Rygiau Rhacs

19 Mai 11am-12.30pm – Gweu

26 Mai 10.30am-12.30pm – Rygiau Rhacs

7 Gorffenaf 11am-12.30pm - Clwb Cwiltio

1 Medi 11am-12.30pm - Clwb Cwiltio

3 Tachwedd 11am-12.3opm - Clwb Cwiltio

Mae pob sesiwn am ddim a darperir rhai deunyddiau i’ch rhoi ar ben y ffordd. Dewch â hen ddillad neu ffabrig os ydych chi’n cymryd rhan yn y sesiwn rygiau rhacs.