: Yr Amgueddfa ar Waith

Oriel 1

Anna Gruffudd, 2 Awst 2007

Iawn te! Bywyd yn Oriel 1!

Dyma fi yn fy swydd newydd fel dehonglydd Oriel 1, oriel newydd Sain Ffagan yn sgwennu blog am y tro cynta! Fe fydd, fel yr Oriel yn un arbrofol felly! (Ac fel Owain...nes i sgwennu hwn unwaith a cholli'r cwbl...ti'n meddwl sa'n well i ni gael gwersi?!!) Yn anffodus, ar hyn o bryd rwy'n eistedd wrth ddesg yn syllu ar olygfa ddigon llwyd drwy'r ffenest.

Mae ambell sied wedi eu ffensio ag arwydd 'keep out' a 'Site Canteen' i'w gweld ac adeilad mawr siedaidd yn gefndir. O wel, er mwyn cyfleu ychydig o naws y lle bydd rhaid i fi ddychmygu felly fy mod i'n eistedd yng nghanol yr Oriel. O fy mlaen i, mae superted a'i gefn tuag ata i a'i ben e'n pwyso ar hen arwydd y pentref a fu unwaith, 'CAPEL CELYN'.

Uwch ei ben, mae Sgrabble yn Gymraeg a rhes o oleuade bach gwyn yn goleuo'r casyn gwydr y mae'n eistedd ynddo.

Yn nes ata i mae dros gant o recordie saith modfedd o'r 60au a'r 70au yn garped lliwgar lliwgar ar y wal, ac yn treiddio drwy'r awyr mae cerddoriaeth hudolus hamddenol.

Ar y wal y tu ol i mi mae lluniau gan blant yn dawnsio ar y wal ar ffilm. O gyfeiriad arall mae swn gwahanol, clychau a baban yn crio, ac yn y pellder swn torf yn dathlu ym mharc yr arfau. Wrth droi o gwmpas rwy'n gweld drychau mawr ar y wal ac yn hongian o'u hamgylch mae dillad sy'n eich gwahodd i'w teimlo a'u gwisgo.

Ddoe, roedd criw o blant yn dawnsio o amgylch y 'juke box' ac ymwelwyr yn rhyfeddu ar wydr lliw a wnaed gan SMYLe, grwp o fwslemiaid ifanc o Abertawe. Roedd plant bach yn gwneud llwyau caru papur gydag un o'r artisiaid fydd yn gweithio yn yr Oriel bob dydd ym mis Awst gyda'r Cert Celf. Roedd merched yn eu harddegau yn gigls i gyd yn cael tro'n cario'r ddol mewn siol yn y dull Cymreig a thatcu yn rhyfeddu ar ei wyrion bach yn gwrando'n astud ar glustffonau arbennig ar straeon ac atgofion o gasgliadau'r archif. Mae cymaint wedi digwydd yn yr Oriel, dawnsio o dros y byd, artistiaid yn perfformio a darlithiau a sgyrsiau o bob math.

Ond well i fi fynd nawr i wneud ychydig o waith paratoi ar gyfer y gweithdau a'r gweithgareddau fydd yn yr Oriel. Mwy o hanesion am gymeriadau a bywyd Oriel 1 i ddod!

Mae mis yn amser hir...

Owain Rhys, 11 Gorffennaf 2007

Mae'r cofnod yma'n mynd i fod yn fyr. Roeddwn newydd orffen fersiwn estynedig o'r mis diwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg - fe wasgais 'Arbed', ac mi ddiflannodd y cwbl. Felly dwi'n pwdu. Yn fras, dyma sut aeth y mis diwethaf:

Mehefin 18 - Cyfarfod gyda'r Llyfrgell Genedlaethol. Fe drafodwyd casglu gwefannau, rhaglenni teledu a recordiau, ymysg pethau eraill (effemera, sut i gofnodi Youtube ayb). Diddorol iawn, a diolch o galon i bawb yn y Llyfrgell am y croeso.

Mehefin 19 a 20 - Gweithdy Storïau Digidol gyda'r BBC yn Aberystwyth. Techneg defnyddiol ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Ewch i'r wefan www.bbc.co.uk/wales/capturewales/

Mehefin 21 - Colli Cynhadledd Stori Ddigidol oherwydd salwch

Mehefin 23 - Priodas Deuluol

Mehefin 24 i Orffennaf 1 - Gwyliau yng Nghaernarfon

Gorffennaf 6 a 7 - Cynhadledd Haness llafar yn Llundain. Eto, techneg sy'n ddefnyddiol dros ben ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes.

Gorffennaf 12 (fory) - Cwrdd gyda Gr?p Hanes Johnstown yn Wrecsam i drafod curadu'r Ddresel Gymunedol nesaf.

Os hoffai rhywun wybod mwy am y rhain, yna cysylltwch â mi. Yn y blog gwreiddiol, llwyddais i sôn am Glyn Wise, Big Brother, amgueddfa rithiol yn Second Life, enw Cymraeg i Facebook (Gweplyfr) a nifer o bethau hynod ddiddorol tebyg. Ond dyna fo, dyna pa mor anwadal yw'r ether.

Casglu Cyfoes

14 Mehefin 2007

Wel, ar ôl blynyddoedd o ymwrthod, dwi wedi penderfynu sgwennu blog. A dweud y gwir, doedd gen i ddim dewis. Cefais fy mhenodi'n Guradur Bywyd Cyfoes yma'n Amgueddfa Werin Cymru, ac fel rhan o fy ffurflen gais, cyhoeddais i'r byd y buasai'n dda o beth rhoi cyfle i'r curaduron rannu eu bywydau diddorol, llawn cyffro, gyda'r cyhoedd. Hyn er mwyn cynyddu "argaeledd" (buzz-word amgueddfaol) y casgliadau. Roedd yn rhaid, felly, dangos y ffordd.

Casglu cyfoes - beth yn union mae hynny'n olygu? Wel, i hwyluso pethau, penderfynais hollti'r swydd yn ddwy.

Yn gyntaf, rwyf am weithio gyda churaduron eraill i lenwi'r gaps yn y casgliad ers 1950. Mae'n gasgliad eithaf cryf yn nhermau gwrthrychau a hanes llafar y Gymru Gymraeg wledig, amaethyddol cyn 1950, ond yn wannach yn nhermau hanes y Gymru ddi-Gymraeg, drefol, ddiwydiannol yn enwedig ar ol 1950, er fod adeiladu Rhyd-y-car, Oakdale a Gwalia wedi gwella 'r sefyllfa rywfaint.

Bydd rhaid bod yn ddethol iawn wrth ddewis pethau gan fod y stordai yn llawn dop. Y bwriad yw pigo a dewis gwrthrychau'n ofalus, a gweu storiau a hanesion o'u hamgylch e.e. gallwn arddangos camera super 8 mewn cesyn, tra'n arddangos ffilmiau o Dreforgan yn y Chwedegau yn y cefndir, a chael tystiolaeth y bobl oedd yn berchen ar y ffilm ar arwydd.

Mae'r ail ran yn anos. Beth i'w gasglu yn yr oes wastraffus, E-beiaidd hon? Ein penderfyniad yw delio gyda chymunedau, prosiectau penodol, gweithdai a themau. Gallwn wedyn gwtogi'r dewis a chanolbwyntio ar wrthrychau neu storiau sy'n crisialu'r oes.

Er enghraifft, mae gennym Ddresel Gymunedol fydd yn newid pob chwe mis. Bydd cymuned neu grwp gwahanol yn arddangos gwrthrychau sy'n bwysig iddyn nhw. Y grwp cyntaf yw grwp Ieuenctid o Benyrenglyn a arddangosodd Gameboy Nintendo, peldroed wedi ei arwyddo a blanced gysur. Y grwp nesaf fydd Cymdeithas Hanes Johnstown.

Dull arall o gasglu cyfoes yw creu Storiau Digidol. Gwneir hyn trwy dynnu lluniau ar gamera ffon a chreu ffilm fer gyda'r canlyniadau. Rwyf am fynychu cwrs a chynhadledd yn Aberystwyth wythnos nesaf fydd yn delio gydda hyn. Na i adael i chi wybod sut aeth hi.

Fy arddangosfa fawr gyntaf fydd un ar gerddoraieth bop Cymru. Dwi'n gobeithio cynnwys gwrthrychau fel offerynnau, props llwyfan a ffansins, dangos fideos, chwarae recordiadau sain a chynnal gweithgareddau fel gweithdai rap.

Mae mwy i ddod...