: Eglwys Sant Teilo

Trysor Cudd

Sara Huws, 23 Mehefin 2011

Bore da! Galw heibio'n sydyn ydw i - mae cymaint i'w wneud y bore 'ma na alla i aros yn hir: cynnau'r arogldarth, paratoi'r groes, cwpan a'r ddysgl, a chamu mewn i'm gwisg 1520aidd. Mae hynny'n ddigon o drafferth - fe godais i'n gynnar i blethu fy ngwallt i steil Tuduraidd heddiw hefyd! Dangosodd un o'r Tudor Group imi sut i wneud pan fuon nhw'n aros yma adeg y Pasg. Fe wnaeth hi i'r holl beth edrych yn hawdd iawn - dwi ddim cweit yn plethu'n rhwydd eto, on dyfal barhau sydd raid, am ein bod ar fin cynnal digwyddiad am ffasiwn Tuduraidd fis nesa.

Yn y cyfamser, rwy'n paratoi ffilm o Duduriaid ddaeth i'n gweld ni y llynedd, i'w roi yn Oriel 1 yn yr arddangosfa Creu Hanes: 1500-1700. Mae rhai o'm hoff wrthrychau Tuduraidd i'w gweld yno, gan gynnwys ffigur o Grist: gwrthrych prin iawn sy'n olrhain hanes crefyddol Cymru. Wedi'i gerfio cyn y Diwygiad, mae'n wrthrych cain ac anarferol - cafodd ei ddarganfod wedi'i guddio tu fewn i wal yn yr 1850au.

Manylyn o gerflun Crog

Ni wyddom lawer am sut y cyrhaeddodd y cerflun ei gartref yn y wal, ond bydd Penny Hill, Cadwraethwraig a Hanesydd, yn dod i siarad am ei hanes cudd ar ddydd Sadwrn. Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar ddydd Sadwrn yn Oriel 1, am 2 o'r gloch, ar gyfer sgwrs fydd yn mynd ymhellach na'r plwyf lle'r canfuwyd y gerflun. Mae Penny yn arbenigwraig mewn pigmentau a phaentiadau hanesyddol, yn bennaf, ac felly fe fydd yn dod â lliw yn ôl i hanes y Groes o Gemaes.

Pigmentau naturiol ar gyfer addurno cerflun

Bydd y sgwrs yn Saesneg: galwch am ragor o wybodaeth ar 029 20 57 3424, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gobeithio y gwela i chi yno.

Blogbledren 2: Dysgu drewllyd

Sara Huws, 9 Mai 2011

Wel, am benwythnos! Mi rois sawl tro arni, ac, o'r diwedd, mae 'da ni bêl-droed draddodiadol newydd. Ar ddiwedd Gwyl Anrhefn! fe ges i gyfle, gyda rhai o'n hymwelwyr ifanc, i brofi'r bêl-droed. Er gwaetha'r ffaith na ches i'r dechneg yn iawn y tro cyntaf, mi oedd yr hyn gyflawnwyd yn hen ddigon da i'w gicio o amgylch lawnt Gwalia, wrth i ddawnswyr yr Ŵyl Fai droelli o'n cwmpas.

Dyma fi'n esbonio o waelod calon pa mor normal ydi fy swydd. Dim ond jocan, fi'n dala pledren mochyn yw e!



Rwy'n ymddiehuro na chefais gyfle i ddiweddaru'r blog ar y pryd, ond, fel y gwelwch o'r llun uchod, does dim llawer o le i gadw cyfrifiadur gen i o dan fy sgert.

Fe gyrhaeddodd y pledrenni yn y post, wedi'u rhewi. Roedden nhw'n gynnyrch gwastraff, sy'n cael eu taflu, gan amla, pan leddir yr anifail i gael cig. Wrth i mi eu gwagio i fwced o ddŵr hallt, roedden nhw'n edrych yn debyg iawn i wy wedi'i botsio, ond un llipa a llithrig iawn. Mae'r bledren ei hun yn debyg iawn i'r hyn a ddefnyddir i lapio cig selsig, ond ychydig yn fwy gwydn a llai blasus. Roedd y ffermwr yn hapus iawn i weld yr anifail yr oedd wedi'i fagu yn cael ei ddefnyddio, er, roedd e hefyd yn credu ein bod ni i 'gyd yn wallgo'! Mae'n debyg yr aeth y cig o'r moch i wneud salami drud.

Fe gefais un tro yn ymarfer adref, gan defnyddio gwelltyn plastig hir (cyrliog) oedd gen i wrth law. Fe sychais y bêl yn yr haul gan ddefnyddio halen i ladd unrhyw facteria. Llwyddiant! Roeddwn i wedi llwyddo i greu pêl newydd, heb orfod rhoi fy ngwefusau ar y bledren. Peth da, am fod rhai ohonyn nhw'n dod gyda ambell i flewyn arnyn nhw hefyd.

Dyma hi yn sychu yn yr haul!



Byr iawn oedd hoedl honno, ac fe dorrodd, yng nghanol sgwrs, ar fore Gwener. Es i chwilota yn fy mag Aldi (oedd wedi'i guddio, peidiwch â phoeni!), a mynd ati i greu pêl newydd yn defnyddio'r hyn oedd gen i: halen, cortyn a phluen. Dwi'n licio dysgu trwy wneud fel arfer, ond roeddwn i'n awyddus iawn i beidio â mynd yn rhy agos at y bledren. Defnyddiais waelod y bluen, fel fyddai'r Tuduriaid yn gwneud, fel gwelltyn. Roedd yn brofiad anghynnes iawn, iawn!

Y bêl orffenedig.



Dwi wedi bod yn awyddus i ddysgu mwy am y ffordd yr oedd y Tuduriaid yn defnyddio ac yn gofalu am eu hanifeiliaid, ac felly dwi 'di bod yn siarad gyda llawer o bobl sy'n dal i ddefnyddio technegau traddodiadol yn eu gwaith. Yn eu plith oedd Peg, ddaeth a llond trol (yn llythrennol) o ddeunyddiau a dyfeisiadau Tuduraidd i'r Amgueddfa yr wythnos ddiwetha. Roedd ganddi bob math o bethau, o frwshys wedi'u gwneud o ddraenogod, i ddulliau atal-cenhedlu - a'r rheiny wedi'u gwneud o bledrenni heyfd! Fe fydda i'n postio am yr hyn wnes i ei ddysgu yn y dyfodol agos.

Yn y cyfamser, mae esiampl hyfryd, a mwy traddodiadol, mae'n siwr, o waith gyda chynnyrch anifeiliaid, i'w gweld yn arddangosfa Creu Hanes 1500-1700. Roeddwn i wedi fy nghyfareddu gan y menyg lledr yma, o Sir Gaernarfon. Mae'r lledr wedi'i leinio gyda sidan (cynnyrch anifail arall!), ac wedi'i frodio gyda lluniau o, ym, anifeiliaid! Fe ddewisais i'r wiwer, wel, am fy mod yn hoffi wiwerod.

Manylyn o faneg ledr, o Neuadd Llanfair, ger Caernarfon. Maent wedi'u gwneud o ledr, eu leinio â sidan a'u brodio gydag edafedd metal a sidan.



Ta waeth. Gobeithio yr ymunwch chi â fi ar Blogbledren eto - a rhowch wybod os 'dych chi isie gêm o bêldroed yn y cyfamser!


Diweddariad: Fe ymddangosodd y ddwy erthygl yma (yn Saesneg) dros yr wythnos ddiwethaf, sy'n sôn am chwaraeon traddodiadol ac amgueddfeydd. Dwi am eu postio isod, i chi gael dysgu mwy os hoffech chi. Hwyl am y tro!

The Lure of Eccentric Sports (BBC)

Mummifying Chickens for Fun and Educational Profit (BoingBoing)

Creu Hanes - Y Deddfau Uno

Sara Huws, 5 Mai 2011

Gair clou i roi gwybod ichi fod dogfen arbennig iawn wedi cyrraedd Sain Ffagan.
Cadwch lygad ar Wedi 7 ar S4C, neu glust ar y Post Prynhawn ar Radio Cymru heno i glywed rhagor!

Y Deddfau Uno


Blogbledren 1: Yr Asesiad Risg Anodda 'Rioed

Sara Huws, 30 Mawrth 2011

Mae tîm digwyddiadau Creu Hanes: 1500-1700 wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf, yn creu rhaglen lawn i gyd-fynd â'r arddangosfa newydd. Yn arbennig, roeddem ni eisiau creu digwyddiad i blant am fywyd yn oes y Tuduriaid. Roeddem eisiau creu rhywbeth fyddai'n codi 'iyyyyyych' brwdfrydig o enau'r plant, ac yn peri i âel ambell riant i godi hefyd. Dyma, felly, sut y crewyd 'Anrhefn!'.

Dyw hanes plant ddim wastad yn hawdd i'w ddehongli, yn enwedig am fod plant wastad wedi diodde mewn amser o annhegwch cymdeithasol. Bydd llafur plant, diffyg addysg neu ddiffyg bwyd yn bynciau anghyfforddus fydd yn codi, weithiau, pan fyddwn ni'n edrych ar fyd y plentyn yn y gorffennol.

Fodd bynnag, mae'n faes pwysig i'w archwilio, am ei fod yn trin a thrafod hawliau dynol, uned y teulu, hunaniaeth a llawer mwy. Weithiau, gall y pynciau hyn ymddangos yn anodd i'w hesbonio wrth feddwl ifanc, chwilfrydig. Ond, fel y dwed un o ffefrynnau'r Adran Addysg, Teacher Tom: "Mae gweld dinistr o bell yn rhoi cyfle [inni] osod seiliau athronyddol yn eu lle, mewn ffordd dyner, sy'n ein paratoi at achlysur pan fydd trasiedi'n digwydd yn nes atom ni."

Fe fyddai'n hawdd iawn i ni ddweud wrth ein hymwelwyr ifanc fod eu bywyd yn haws heddiw nac erioed or blaen (neu'r clasur: "you've never had it so good...") - ond roeddem ni'n awyddus i ennyn diddordeb a chwilfrydedd, nid gwneud iddynt deimlo'n euog fod ganddynt Xbox a gwely clyd.

A dyna'r esboniad troellog pam yr ydw i 'di bod yn ffonio lladd-dai heddiw, yn chwilio am bledren mochyn.

Ie, fe glywoch chi'n iawn: pledren mochyn

Yn ystod 'Anrhefn!', bydd Tuduriaid i'w canfod ar hyd a lled y safle: meddygon, saethwyr, pibwr, cogydd, crwynydd a mwy. Fe fydda i'n trawsnewid i fod yn Sara'r forwyn (does dim llawer o newid i'w wneud, heblaw fy mod yn gorfod camu yn ôl i fewn i'r gorset bren fondigrybwyll 'na). Fe swydd i fydd dangos rhan o fywyd hamdden y Tuduriaid, sef chwaraeon; a'r rhan fwyaf o'r rheiny yn waedlyd, yn gyflym ac yn dreisgar!

Fel rhan o'r sgwrs, fe fydda i'n dangos sut i wneud pêl allan o bledren mochyn. Mae'n sgil draddodiadol sydd wedi goroesi ymhellach nag oes y Tuduriaid, gan fod sawl aelod o staff yn cofio chwarae gyda phêl droed bledren pan yn blant. Does neb yn cofio sut i'w gwneud nhw, fodd bynnag. Roedd yn sgil oedd gan eu Neiniau a'u Teidiau, ond na chafodd ei rannu. Pan ddaeth hi'n amser i ddysgu, roedd peli troed plastig ar gael yn rhad: doedd dim angen dysgu, bellach, pa ffordd oedd y ffordd orau i chwythu pledren yn bêl.

Sy'n arwain yn dwt at y rhan nesaf: Iechyd a Diogelwch! Mae goblygiadau gwneud hyn yn pwyso arnai dipyn - nid yn unig am fod y cyhoedd yn mynd i fod yno, ond am nad ydw i eisiau cael rhyw afiechyd ofnadwy fydd yn fy nhroi yn fersiwn mochyn-menyw o Jeff Goldblum yn The Fly. Mae haneswyr byw yn argymell socian y bledren mewn dŵr a halen, ond does dim llawer o wybodaeth ysgrifenedig i'w ganfod yn nunlle! Cyn i benderfynu sut i fynd ati, felly, dwi am daflu'r rhwyd ymhellach... Annwyl ddarllennydd: a oes gennych chi unrhyw 'tips' ar sut i wneud pêl droed o bledren mochyn? Rhowch nhw yn y bocs sylwadau!

Fe fydda i'n diweddaru'r Bledrenflog wrth i mi ddysgu mwy am y sgil, felly rwy'n gobeithio y gwela i chi yma, y tro nesa!

Cwpan-benglog-flog

Sara Huws, 23 Chwefror 2011

Ymddengys mai cwpannau-penglog yw'r 'zeitgeist' hanesyddol diweddara'.

Mae'r cyfryngau wrth eu bodd hefo straeon hanesyddol sydd 'chyding yn ych-a-fi, ac felly roedd darganfyddiad sawl penglog-gwpan yn Cheddar Gorge yn stori fawr, yn ymddangos ar y Beeb, y Guardian ac hydynoed ar hipster-flog Boing Boing. Defnyddwyd y cwpannau, sy' tua 15,000 mlwydd oed, ar achylsuron arbennig, a maent wedi eu gwneud o benglogau dynol.

Llamwch 'mlaen tua 14,000 o flynyddoedd, i 1057CE (neu 1057AD, yn dibynnu ar sut 'dych chi'n gweld pethe). Yno, fe ddowch ar draws ddarn o benglog pwysig iawn yn hanes Cymru - sydd hefyd yn gwpan arian.

Ymhell o bortread aflednais y cyfryngau o'n cyn-daid, yn yfed gwaed o benglog ei gyfarwydd, mae'r benglog arbennig hon yn dweud hanes llawer mwy sid't, un sy'n eiddo i deulu aristocrataidd Cymreig. Yn wir, mae'r benglog ei hun wedi ei gosod mewn arian o Garrard's yn Llundain, a byddai'n cael ei defnyddio mewn llwncdestun wrth rhai o fyrddau gwledd uchelwyr Cymru. Roedd hefyd, yn ôl yr hanes, yn arfer eistedd ar ysgwyddau sanctaidd un o enwogion Cymru: Teilo. Y benglog, hynny yw, nid y gwpan.

Erbyn hyn, mae'n cael ei gadw yng Nghadeirlan Llandaf, ble 'mae angen gwneud apwyntiad arbennig i'w weld. Fe es i lawr i'w weld yr wythnos diwetha', tra'n paratoi ar gyfer fy sgwrs 'Holy Relics!'y dydd Sadwrn 'ma.

Mae'r gwpan wedi'i selio y tu ôl i wydr, i arbed yr arian rhag cerydu. Rwy'n gofyn, felly, eich bod yn maddau ambell i adlewyrchiad ar y llun. Mae cysgod gofalwr chwilfrydig y benglog yn ymddangos yn rhai ohonynt, fel ysbryd mewn siwt!

Cwpan-benglog Teilo, Cadeirlan Llandaf

Cafodd y benglog ei hetifeddu gan genedlaethau o'r teulu Mathew, ac roedd y traddodiad o yfed ohono'n adlais o gredoau ac arferion yr Eglwys gynnar. Roedd corff, neu ran o gorff Sant, yn wrthrych pwysig a phwerus iawn. Mae llawer o eglwysi wedi eu hadeiladu yn sgil presenoldeb esgyrn Cristnogion cynnar, pwysig, sy'n cael eu cadw oddi fewn i allorau, er enghraifft. Mae addoli yn defnyddio creiriau yn dal i ddigwydd, yn ogystal â'u cyfnewid - sy'n fater sensitif iawn i lawer.

Mae tudalen ar Ebay, hyd yn oed, sy'n eich cynghori ar sut i werthu a phrynnu creiriau, heb dorri rheolau Catholig. Os edrychwch chi ar wefan Celf Coll Interpol (un o fy hoff lefydd ar y we i gyd, yma), mae'n dangos i ni fod eiconau a chreiriau, o bob crefydd, yn dal i fod yn wrthrychau pwerus sy'n denu pob math o bobl atynt - hyd yn oed yr rheini sy'n dwyn.

Rwy wrthi'n ysgrifennu'r sgwrs ar hyn o bryd, yn barod ar gyfer dydd Sadwrn. Mae'n gyfnod cyffrous, ble mae'r holl wybodaeth 'ma'n chwyrlïo yn fy mhen, cyn y byddant yn setlo yn ryw fath o sgript gaboledig. Dwi am fynd i roi fy nhrwyn yn ôl ar y maen, felly. Neu falle a'f fi am baned o de yn gynta...