: Eglwys Sant Teilo

Newid a Pharhâd

Sara Huws, 11 Gorffennaf 2013

Dwi newydd fod yn lloffa trwy'r dudalen blogie - dwi heb wneud ers sbel a mae'n wych gweld cymaint o flogwyr newydd, yn trafod pynciau newydd yma. Da iawn bawb!

Mae fy nghyfraniad i wedi bod braidd yn dameidiog, a dwi'n gobeithio y gallwch faddau hynny, annwyl ddarllenwyr.

Er ein bod ni wedi bod wrthi'n gwneud lot o waith caib a rhaw yma yn Sain Ffagan, mae'r rhan fwyaf ohono di bod y 'tu ôl i'r llen' - gwaith technegol, manwl, efo darnau mawr iawn o bapur, yn hytrach na gwrthrychau. 'Dyn ni wedi bod wrthi yn cynllunio, yn gwerthuso a chofnodi, ac yn fuan iawn y byddwn ni'n dechrau gweld newid go-iawn ar y safle yn ei sgîl. 

Gwaith is-adeiledd ydi'r rhan fwyaf o'r hyn yr ydym wedi ei gwblhau, yn ogystal ag astudio dichonoldeb defnyddio signal 3G a wifi ar ein safle coediog, eang. 'Dyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorydd mewn hygyrchedd, i ddysgu sut y gallwn ni wneud yr amgueddfa'n le mwy croesawgar i amrywiaeth fwy eang o bobloedd. 

Ein bwriad ni yw i gadw naws arbennig yr amgueddfa, ond i wella'r cyfleusterau hefyd. 'Dyn ni'n trio bod mor agored a chyfranogol â phosib, felly 'dyn ni wedi bod yn gwrando ar farn gwahanol grwpiau mewn fforymau i bobl ifanc, athrawon a chrefftwyr. Mi fyddwn ni'n ail-wampio'r orielau hefyd, a dwi'n edrych ymlaen at gael gweld pa wrthrychau 'mae fy nghyd-weithwyr wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfeydd newydd.

Yn y cyfamser, liciwn i gadw mewn cysylltiad â chi trwy'r blog - ond sut?

A ddylwn i sgrifennu mwy am hanes yr adeiladau sydd yma'n barod? Neu ddangos yr rhai newydd wrth iddynt dyfu?

Ddylwn i adrodd y straeon mawrion, neu hanes y rhyfeddode dyddiol? Beth am ein cynllunie i gynnal nosweithie preswyl a pherfformiadau? Mwy o Duduriaid? Llai o Duduriad?

Dwi'n credu'n gryf y dylwn i ofyn, os nad ydw i'n gwybod. Felly dyma ofyn i chi:

  • Beth hoffech chi ei weld ar y blog 'ma?

Gadwch sylw os oes barn neu gais gennych chi - dwi'n edrych ymlaen at gael clywed beth sydd gennych i'w ddweud.

Cynhadledd ExArc 2013

Sara Huws, 10 Ionawr 2013

Ma sbel ers i fi flogio o Sain Ffagan - yn anffodus ma coblyn yn y cyfrifiadur, a 'dyn ni heb ddod o hyd iddo fe eto. Dyna fy ymddiheuriad, gyda llaw, nad oes lluniau yn y cofnod hwn. Gobeithio 'dwi y byddan nhw'n ail-ymddangos yn fuan! Ta waeth - ymlaen at y pwnc o dan sylw:

Yr wythnos hon, bydd Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd 'ExArc' 2013. 'ExArc' yw'r enw cyffredinol am faes archaeoleg arbrofol, sy'n defnyddio technegau ymarferol i brofi damcaniaethau am fywyd yn y gorffennol. Maent yn edrych ar 'sut?' yn ogystal â phryd, y digwyddodd rhywbeth

Ma' gwaith archaeolegyddion arbrofol i'w ganfod yn y deunyddiau crai, y manylion lleiaf, a'r broses o ddysgu yn sgîl methiant, yn ogystal â llwyddiant. Gall eu hymchwil gwmpasu pynciau fel smeltio haearn yn defnyddio cyfarpar cyn-oesol; archwilio ac ail-greu dillad isaf hanesyddol; neu ddarganfod manylion ymarferol am fywyd bob-dydd yn y gorffennol.

Dwi'n lwcus iawn, am i mi gael dysgu llawer gan archaeolegyddion arbrofol dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n falch, felly, eu bod am ddod yma i Sain Ffagan, fel rhan o'u hymweliad â Chaerdydd. Dy'n ni'n licio torchi'n llewys ac arbrofi gyda gweithgareddau hanesyddol yma yn Sain Ffagan - boed yn wneud clocsie i ddawnsio ynddyn nhw ar Galan Mai - felly dwi'n siwr y bydd llawer mwy i'w ddysgu gan ExArch.

Mae'r gynhadledd ei hun 'nawr yn llawn, ond bydd modd dilyn y drafodaeth ar hashnod #eauk2013. Wrth imi sgrifennu hwn, mae'r ffrwd twitter yn llenwi â phobl sy'n teithio i Gaerdydd o bob cyfeiriad. Os ydych chi'n mynychu, cofiwch ddod draw i ddweud helo. Bydd dim rhosyn gwyn yn fy ngwallt, ond fe fyddwch chi'n gallu fy adnabod, gobeithio, am fy mod yn gwisgo bathodyn enw...

Cyfweliad ar Radio 2 - heno

Sara Huws, 27 Gorffennaf 2012

Ddwywaith mewn wythnos? Wel, pam lai - tra bo'r haul yn dal i wenu...

Postiad bach clou i'ch hysbysu am bwt fydd ar y radio heno. Ar Ddydd Mawrth, ges i ymweld â'r BBC yn Llandaf i recordio cyfweliad ar gyfer 'The Arts Show' ar Radio 2. Bydd yn cael ei ddarlledu heno, am ddeg o'r gloch. Penny Smith sy'n cyflwyno yn lle Claudia Winkleman. Sai'n gweud bo fi di siomi, ond dwi yn falch na wnes i wisgo lipstic pinc yn deyrnged i Claudia, fel o'n i wedi meddwl gwneud. Cynhaliwyd y cyfweliad dros donfeddau hudolus y BBC - finne o flaen bocs o switsys a goleuadau pert, a nhwythe mewn stiwdio yn Llundain. Ro'n i di gwisgo'n smart rhagofn ac felly'n teimlo bach yn sili mewn stafell ar fy mhen fy hun.

Ta waeth. Fe ges i hwyl arni, yn sôn am fy ngwaith ac am Sain Ffagan yn gyffredinol - er gwaetha'r ffaith i gwestiwn am y nifer o lafariaid sy' gyda ni yn y Gymraeg godi'i ben. Rhaid ifi gyfadde ei fod yn ystrydeb sy'n fy nghorddi fymryn weithie, felly ro'n i'n eitha balch ifi lwyddo i dorri'r myth mewn ffordd hoffus, ac heb godi 'mhwysau gwaed. Fe fydd raid i chi wrando i weld a ydych chi'n cytuno!

Radio 2 Arts Show - 22:00 - Dydd Gwener 27 Gorffennaf

Haf hirfelyn blogiog

Sara Huws, 26 Gorffennaf 2012

Pan dwi�n edrych �nôl dros y dudalen 'ma, mae�n edrych yn debyg taw�r haul sy�n gneud imi sgwennu cofnod. Mae�n ddiwrnod godidog yma heddi eto, felly dyma danio�r injan flogio a dechre sgrifennu.

Dy�n ni i gyd mewn hwylie da iawn ar hyn o bryd, hefyd. Ar ôl treulio misoedd yn cyd-weithio, fe gyflwynom ni gais trwch (a dwysder) torth o fara brith i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Maen nhw wedi ei archwilio, ac wedi penderfynu rhoi nawdd o �11.5 miliwn tuag at brosiect i ail-ddatblygu�r amgueddfa. Mi fydd angen i ni weithio�n galed i godi gweddill yr arian, felly fe lawnsiwyd yr �apêl punt y pen� wythnos diwethaf. Ei neges? Yn fras: os oes punt �da chi i�w sbario, rhowch hi i ni a mi wnewn ni rwbeth arbennig hefo hi!

Er fod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn arbennig o fanwl, mae�n teimlo fel bo realiti�r peth dal y tu hwnt i�r gorwel. Buan iawn y byddwn ni�n gweld y safle�n newid, fodd bynnag. Bydd yr amgueddfa yn ei hanfod yn newid hefyd � a�n gobaith ni yw y dowch chi hefo ni ar y daith �ma. Dy�n ni�n awyddus iawn i greu rhagor o gyfleoedd i chi estyn at y casgliad, ac i gael hwyl wrth fynd i�r afael â bywyd bob dydd yr amgueddfa.

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae pethe�n dal i dycio �mlaen. Mi ges i amser wrth fy modd yn tywys pobl o amgylch y gerddi Tuduraidd yr wythnos diwethaf � doedd dim diferyn o law, nag un gwlithen, i�w (g)weld yn unman. Daeth myfyrwyr o�r Almaen, Ffrainc, Lloegr a Siapan gyda fi, yn ogystal â rhai teuluoedd Cymreig/Sbaenaidd/Seisnig. Amser maith yn ôl, ro�n i�n ieithydd go-lew, felly dyma geisio pysgota peth o �ngeirfa mas o gefn y meddwl. Mi fuom ni�n blasu ac yn arogli wrth ymweld â�n gerddi, 'ble mae rhywogaethau o�r 16 ganrif yn dal i dyfu. Fel arfer, fe fyddwn i�n gofyn i bobl beidio â phigo planhigion yma, er mwyn cadw digon o fwyd i�n cymdogion blewog/pluog! Yn ffodus, fe ges i ganiatâd i gael ambell i damaid fan hyn a fan draw � ac yn fwy ffodus byth, fe ddysgodd Bernice a Paul y garddwyr imi pa rai i�w bwyta a pha rai i�w hosgoi!

Ddoe, bûm yn cwrdd a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, i drafod sut y gallwn ni ddefnyddio gwybodaeth a gwrthrychau sy�n hannu o gloddio archaeolegol i greu gweithgareddau i�r cyhoedd. Fe edrychom ni ar y pigmentau ar waliau�r eglwys, ar gyfarpar coginio, a hydnoed set doilet Duduraidd! Bore �ma, cario wythdeg pedwar (fe gyfrom ni) o dariannau cardfwrdd i�r Pentre Celtaidd oedd tasg cynta�r diwrnod. Mae Sian ac Ian wrthi�n cynnal gweithgareddau peintio yno, fel rhan o Ŵyl Archaeoleg Prydain.

Dwi yn y swyddfa erbyn hyn, er gwaetha�r heulwen. Paratoi sgwrs ar gyfer yr Eisteddfod �dwi. Mae�n fraint cael siarad, felly dwi eisie gwneud yn siwr y bydd y ddarlith yn dangos Sain Ffagan ar ei gorau! Thema�r ddarlith fydd murluniau Eglwys Cadog Sant, Llancarfan, a Bro Morgannwg yn gyffredinol. Mae�r holl ddarllen am ddarluniau cudd wedi codi blys mynwenta arnai!

Dwi�n gobeithio eich bod chithe�n mwynhau�r ysbaid heulog �ma � os �dych chi�n meddwl dod i ymweld â ni, cliciwch yma i weld beth sy� mlaen. Cofiwch, yn ogystal â Bws 32, gallwch ddala bws gwennol newydd sbon, rhif 5, o du allan yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, at ein trothwy ni yn Sain Ffagan.

ON: bydd mwy o luniau tro nesa, dwi�n gaddo!

Meini prawf

Sara Huws, 20 Ebrill 2012

Mae Tŷ Hwlffordd, prosiect diweddara' Sain Ffagan yn adeilad bach lwcus iawn. Achubwyd yr adeilad beth amser yn ôl - ac ar ôl cyfnod o recordio, datgymalu, symud cerrig, ymchwil ac ail-adeiladu, mae bron yn barod i gael ei agor yn swyddogol.

Bydd raid i ni aros i'r mortar calch sychu'n drylwyr cyn dodrefnu'r lle, ond yn y cyfamser, mae rhaglen arbennig iawn am stori'r adeilad am ymddangos ar y teledu heno: 'Brick by Brick' gyda Dan Cruickshank, am 9.00 ar BBC2 (9.30 ar BBC2 Wales). Os 'dych chi 'di bod yn Sain Ffagan a 'di meddwl "sut ar y ddaear ma' nhw'n symud adeilad?", hon yw'r rhaglen i chi. Cliciwch isod i gael golwg ar glip o'r rhaglen:


'Brick by Brick' - Charlie'n adeiladu' crymdo
tu fewn i Dy Hwlffordd

'Gwisgo' yr ystafell ar gyfer y criw teledu. Bydd arddangosfa barhaol o wrthrychau'n cael ei gosod yn yr adeilad unwaith y bydd y calch yn ei furiau wedi sychu.

Bydd yr adeilad yn cael agoriad swyddogol yn ystod yr Haf, ond yn y cyfamser, rydym ni'n gobeithio gallu rhoi rhagolwg i chi o beth 'dyn ni'n wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Gallwch ymweld â'r adeilad rhwng 10 a 5 dros y penwythnos. Fe fydda i'n postio rhagor o fanylion ar y blog pan fyddan nhw'n fy nghyrraedd - yn y cyfamser, os oes cwestiwn gennych chi am yr adeilad, neu'r rhaglen, dodwch nhw yn y sylwadau isod a mi wnai 'ngorau i'w hateb.

seremoni orffen ty hwlffordd

Rhan o'r criw fu'n gyfrifol am achub yr adeilad, a rhan o'r criw fydd yn edrych ar ei ôl o hyn ymlaen!