Amgueddfa Blog: Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau

We've had a great few days at the museum, being half term we created lots of different art activities for visitrs to try in the 'Who Decides' exhibition. People created monsters and put them on sticks and took photos of their favourite things in the gallery.

Inspired by the sculpture they made sculptures from pipe cleaners. The Besson ceramics collection let people be creative by making their own designs on plates. The visitors really enjoyed taking part and we had a great time to, talking about the art we've chosen with visitors.

There was a (nice!) mess on the floor afterwards but Mike did a great job clearing up!

If you took part dont forget to share your photos on social media using #wallichXart

There will be lots more events and activities happening in the gallery over the coming months. Check our events web page for more information.

Hi Everyone! Uri Guide Dog here, the new doggie bloggist taking over from my big bro Arnie, who’s now retired. I’ve been getting to know National Museum Cardiff very well as it’s one of my mum’s favourite places EVER!

We went to the Museum’s audio tour about Victorian art recently. The paintings and sculptures were beautifully described by the human guides. I was listening intently, even if it did look like I was having a little snooze next to mum. That’s just my listening face.

Anyway I had the chance to meet up with a few colleagues, Guide Dogs Ruby and Alfie, who were also keeping their two-leggeds safe. But we were surprised to find other dogs at the Museum!

I should have known something was up as soon as I arrived… Outside, after a doggie relief moment, I bumped into a colourful dog just sitting on the grass! A beauty, too! I couldn’t believe my luck! But she didn't respond to my waggy tail or my friendly bow. Rude, I thought, but I took a sneaky selfie anyway. Then, inside, I was even more surprised to find a whole pack of multi-coloured pups! I met Oakly, Abi, Smileosaur, Percy and Doris.

Mum explained these are ‘Snowdogs’, and that just like me these are helping dogs too. Except they are made of fiberglass, not fur. They have been made as part of an appeal to help Tŷ Hafan, the children’s hospice in Wales. These sculptural dogs have been decorated by local artists, schools and community groups, and you can follow the Snowdogs: Tails in Wales trail to find them all around Cardiff and the Vale!

As we sat next to the dogs a little girl came up to say hello. She gave me a cuddle and said she was from Marlborough Primary School and had actually helped decorate Percy the pup! Everyone in her class had put a fingerprint on a red background to create a flower pattern on their dog. She was very proud of their work. I told her Percy is PAW-SOME. He really is.

Apparently the Snowdog was chosen because it features in a film, based on a character created by Raymond Briggs. The Snowdog helps a boy deal with the loss of his pet dog by taking him on a magical adventure.

The pack of Snowdogs are going to be sold at auction after the public exhibition and trail finishes. The money raised will help support lots of children and their families, proving that Guide Dogs are not the only dogs who change lives. Good job guys! 

 

The Museum's next Audio Description Tour takes place on 7th December

Traddodiadau Calan Gaeaf

Mae noson Calan Gaeaf ar y gorwel ac mae’n siwr fod plant ledled Cymru yn ysu am gael hyd i’r wisg ddychrynllyd berffaith ar gyfer y noswaith, eu rhieni yn sicrhau bod digon o losin yn y tŷ ar gyfer ymwelwyr bach dieflig gwancus, a phwmpenni ar draws y wlad yn cael eu gwacáu a’u cerfio. Daw rhai o’r traddodiadau hyn oddi wrth ein ffrindiau dros ddyfroedd yr Atlantig, ond yn y blog hwn hoffwn gynnig blas o’r ffyrdd eraill y dathlwyd y dyddiad hwn yng Nghymru, a chofiwch achub ar cyfle i brofi holl hwyl yr ŵyl ar y 29ain, 30ain ac 31ain o Hydref yng Ngŵyl Calan Gaeaf Sain Ffagan

Diwedd y Cynhaeaf

Gyda chasglu’r cynhaeaf a dyfodiad Calan Gaeaf roedd y gwaith amaethyddol trwm yn dod i ben am y flwyddyn. Roedd diogelu’r cynnyrch yn barod at y gaeaf yn dynodi diwedd yr haf a dechrau’r gaeaf, sef diwedd  yr hen flwyddyn Geltaidd ar Noson Calan Gaeaf. I ddathlu’r achlysur pwysig hwn byddai llawer yn paratoi gwledd foethus yn llawn danteithion a cherddoriaeth er mwyn diolch i gymdogion am eu cymorth yn hel yn cnydau. Roedd hi hefyd yn arfer i ladd anifeiliaid fferm yn y cyfnod hwn er mwyn cadw’r cig at y gaeaf. 

Bwganod ar Bob Camfa

Ond, yn ôl pob sôn, gallai pethau rhyfedd iawn ddigwydd ar noswaith Calan Gaeaf. Roedd rhwydd hynt i ysbrydion grwydro’r wlad a chredid y byddai eneidiau’r meirwon i’w gweld ar bob camfa am hanner nos. Byddai i’r ysbrydion hyn nodweddion gwahanol o ardal i ardal ond dau o’r bwganod mwyaf cyffredin oedd y Ladi Wen, ac yn arbennig yn y gogledd, yr Hwch Ddu Gwta. Arferid cynnau coelcerthau wedi iddi dywyllu, ond wrth i’r fflamau farw ac wrth i’r tywyllwch ennill y nos, ofnid gweld yr Hwch Ddu Gwta. Rhaid oedd brysio adref heb oedi, ac wrth wneud hynny, byddai rhai yn adrodd: 

Adref, adref am y cynta’, Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’

neu

Hwch Ddu Gwta a Ladi Wen heb ddim pen

Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’

Hwch Ddu Gwta nos G’langaea

Lladron yn dwad tan weu sana.

ac hefyd

Hwch Ddu Gwta, yn brathu coesau’r hogia’ lleia’.

Stwnsh, Tair Powlen a 'Thwco ’Fale'

Roedd llawr o ofergolion yn gysylltiedig â’r adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig y rhai hynny a fyddai’n eich galluogi i ddarogan y dyfodol. Dau gwestiwn pwysig ar lawer tafod oedd pwy fyddai’n priodi a phwy fyddai’n cwrdd ag anffawd marwol. Er mae’r un oedd y cwestiynau, byddai y modd y’u hatebid yn amrywio o sir i sir. Yn Sir Drefaldwyn, byddid yn paratoi stwnsh o naw cynhwysyn (yn eu plith ceid tatws, moron, erfin, cennin, pupur a halen), wedi eu cymysgu gydag ychydig o laeth ac yn y canol, rhoddid modrwy briodas. Byddai pawb yn cymryd ei dro i brofi’r stwnsh hwn a’r sawl a fyddai’n dod o hyd i’r fodrwy yn siwr o briodi ymhen dim.  Gallwch weld yr arfer hwn ar waith yn Ffermdy Abernodwydd yn ystod Gŵyl Calan Gaeaf Sain Ffagan yr wythnos nesaf. 

Traddodiad arall oedd plicio croen afal mewn un darn, a thaflu’r croen dros eich ysgwydd. Byddai siap y croen ar y llawr yn dynodi llythyren gyntaf eich darpar briod. 

Yn ardal Llandysul byddid yn llenwi tair powlen: un â phridd, un â dŵr â gwaddod ac un â dŵr clir. Wedi rhoi mwgwd am y llygaid, rhaid oedd estyn a chyffwrdd un o’r powlenni. Roedd gwahanol ystyr i’r dair. Byddai’r cyntaf yn darogan marw cyn priodi; yr ail yn darogan priodas gythryblus a’r drydedd yn dynodi priodas hapus. Arferid hefyd chwarae gemau megis 'twco ’fale', neu fersiwn braidd yn fwy peryglus, ceisio dal afal yn hongian o’r to ynghlwm wrth gannwyll, yn eich ceg!

Eitemau Brawychus ein Casgliadau

Gellir hefyd gael cipolwg ar eitemau llawer mwy dychrynllyd yn ein casgliadau ar nosweithiau ein Gŵyl Calan Gaeaf. Yn eu plith bydd dol o Wlad Belg a gasglwyd gan Edward Lovett (1852-1933). Roedd gan Lovett ddiddordeb mawr mewn swynion, boed yn rhai lwcus neu’n rhai anlwcus. Gwnaethpwyd y ddol hon o gwyr a gellid ei defnyddio i niwedio eraill trwy osod piniau neu unrhywbeth miniog ynddi, ac os am achosi marwolaeth araf boenus i elyn, gellid ei thoddi yn araf mewn simne. Byddwn hefyd yn arddangos potel gwrach gyda swyn wedi ei gosod ynddi. Mae’n debyg nad agorwyd y botel hon erioed. Gosodwyd poteli tebyg mewn waliau adeiladau i amddiffyn rhag ysbrydion drwg.

Straeon i Godi Gwallt Pen

Recordiwyd miloedd o siaradwyr gan Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru dros y blynyddoedd. Ymysg ein recordiadau ceir toreth o straeon am brofiadau arswydus, am fwganod ac ofergoelion. Mae rhai o’r straeon yn perthyn i’r siaradwr ei hyn tra bod eraill yn rhai a drosglwyddwyd ar lafar o’r gorffennol o un cenhedlaeth i’r llall.

Dyma ambell i glip sain o’r Archif:

Ysbryd Pwll Glo McClaren 

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606763

Hwch - Ddu Gwta

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606778

Crinjar

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606781

 

 

Hi, it’s me Mike, volunteer curator with The Wallich working on a new exhibition called ‘Who Decides: Making Connections with Contemporary Art’. The old exhibition that was in the gallery has come down, it’s totally empty now.

 

So we are going to start this new exhibition; with new art, photos and films that you won’t have seen before. You can see some of my favourite pieces. I really hope you enjoy this new exhibition.

 ‘Who Decides: Making Connections with Contemporary Art’ opens on October 26th 2017. More information here and here

Fel arfer Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror yn frith o erthyglau a digwyddiadau yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth, a’u hanes. Ond ddylai hanes byth gael ei gyfyngu i un mis, felly ar achlysur Pride Cymru yng Nghaerdydd, dyma gyfle da i ystyried hanes LGBT.

Stori ar Blât

Ystyriwch, er enghraifft, y plât yn nghasgliad Amgueddfa Cymru ag arno olygfa o ddwy fenyw yn marchogaeth. Mae’n un o filoedd o eitemau crochenwaith printio troslun glas a gwyn fu mor boblogaidd ers y 19eg ganrif. Ond mae’r llun hwn yn fwy nag addurn.

Plât, Crochendy Morgannwg, oddeutu 1813-1839

“Menywod Llangollen” yw teitl y gwaith, a ysbrydolwyd gan hanes dwy fenyw – y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby.

Taniwyd fflam rhwng Eleanor a Sarah gartref yn Iwerddon, a chan ofni’r atyniad hwn rhwng dwy ferch, ceisiodd y ddau deulu eu gwahardd rhag gweld ei gilydd. Yn benderfynol o fod gyda’i gilydd, dihangodd y ddwy liw nos, ond cawsant eu dal ymhen fawr o dro. Brwydrodd Eleanor a Sarah yn ddiflino am yr hawl i fod gyda’i gilydd tan i’w teuluoedd ildio, a gadel iddynt fynd.

Teithiodd y ddwy i Gymru ac ymgartrefu ger Llangollen, gan fyw yno am dros 50 mlynedd.

Enwogrwydd 'Menywod Llangollen'

Lledodd yr hanes amdanynt yn gyflym, a byddent yn llythyra gydag enwogion megis Shelley, Byron, Syr Walter Scott, Dug Wellington, Josiah Wedgewood a Caroline Lamb, gyda nifer yn ymweld â’r ddwy yn Llangollen. Parhaodd y diddordeb yn y cwpl wedi eu marw ym 1829 a 1831 ac erbyn heddiw maent yn adnabyddus fel un o’r cyplau lesbiaidd enwocaf erioed.

Roedd y ddwy yn bendant yn ystod eu bywydau nad oedden nhw am gael llun neu bortread wedi’i dynnu.

Ond pan ymwelodd y Fonesig Parker ym 1829, perswadiodd ei mam i ddwyn sylw Eleanor a Sarah tra’i bod hithau’n creu brasluniau cyflym o dan y bwrdd. Erbyn hynny roedd Eleanor yn hollol ddall, felly llwyddodd y Fonesig Parker i fraslunio’i hwyneb yn llawn, tra bod Sarah mewn proffil. Wedi i’r cwpwl farw, datblygodd y brasluniau yn ddarlun llawn o’r ddwy yn eu llyfrgell a gwerthu copïau i godi arian at elusennau.

Portread o'r Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, wedi'i ddarlunio ar sail sgets cyfrin a wnaethpwyd yn eu cartref yn Llangollen (c) Norena Shopland
Portread o'r Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, wedi'i ddarlunio ar sail sgets cyfrin a wnaethpwyd yn eu cartref yn Llangollen

Dwyn Portread 

Oddeutu 1830 copïwyd y darlun heb ganiatâd gan James Henry Lynch ac ef gynhyrchodd y darlun mwyaf adnabyddus o Eleanor a Sarah. Masgynhyrchwyd y darlun a’i ddefnyddio ar amryw o nwyddau megis cofroddion twristiaid, cardiau post a chloriau nifer o lyfrau.

Portread 'Lynch' o'r Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsoby, wedi'i gopïo yn helaeth o'r portread 'Llyfrgell'. Fe werthwyd nifer sylweddol o'r print hwn. (c) Norena Shopland
Portread 'Lynch' o'r Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsoby, wedi'i gopïo yn helaeth o'r portread 'Llyfrgell'. Fe werthwyd nifer sylweddol o'r print hwn.

Mae darlun Lynch yn eu dangos yn sefyll yn yr awyr agored ac yn gwisgo’r clogynnau marchogaeth oedd yn gymaint o ffefryn gan y dwy. Ymddangosodd y gwaith tua diwedd y cyfnod o ddiddordeb cyhoeddus ym mywyd Eleanor a Sarah; erbyn troad y 19eg ganrif roedd hanes y menywod wedi lledu a nifer yn cyhoeddi eu stori.

Ysgrifennodd William Wordsworth gerdd ym 1824 ar ôl ymweld â’r ddwy. Ymddangosodd y crochenwaith felly mewn cyfnod pan oedd diddordeb mawr yn eu hanes.

Crochenwaith Morgannwg a Hanes 'Plât Llangollen'

Mae’r plât cyntaf yn dangos y ddwy ar eu ceffylau yn siarad â gwr yn cario pladur dros ei ysgwydd. Yn y cefndir mae gyrr o wartheg, tref Llangollen, afon Dyfrdwy a fersiwn hynod ramantus o gastell Dinas Brân.

Gwyddom ddyddiad cynhyrchu cynharaf y plât o stamp y gwneuthurwr ar y gwaelod – ‘BB&I’, sef Baker, Bevin and Irwin o Grochendy Morgannwg ac a ddefnyddiwyd oddeutu 1815-25. Daeth yn un o blatiau enwocaf y crochendy hwnnw. Er bod Eleanor a Sarah yn frwd dros gadw dyddiaduron, ac i’r gwaith gael ei gynhyrchu yn ystod bywydau’r ddwy, nid oes sôn amdano yn eu hysgrifau. Wyddon ni ddim os oeddent yn gwybod am fodolaeth y platiau neu wedi cytuno i gael eu portreadu yn y fath fodd.

Ym 1838 daeth Crochendy Morgannwg dan reolaeth y gwr busnes o Abertawe Lewis Llewelyn Dillwyn ac fe barhaodd i gynhyrchu’r platiau dan stampiau Morgannwg, Abertawe a Cambrian tan oddeutu 1840. Mae’n debygol ei fod yn defnyddio’r un dyluniad yng Nghrochendy Cambrian ym 1925; roedd cystadleuaeth gref rhwng y ddau grochendy a byddent yn aml yn copïo gwaith ei gilydd.[1]

Y cyswllt rhyfeddol yma yw taw un o aelodau enwocaf teulu Lewis oedd Amy Dillwyn. Menyw fusnes oedd Amy, ac yn ogystal a bod yn nofelydd blaenllaw, hi gymerodd yr awenau yng ngweithfeydd sinc ei thad wedi iddo farw.

Roedd Amy hefyd mewn perthynas hoyw. Braf yw breuddwydio bod Amy, wedi gweld plât Crochendy Morgannwg, wedi dwyn perswâd ar ei brawd i’w gynhyrchu yng Nghrochendy Cambrian, ond nid oes unrhyw dystiolaeth o hyn.

Manylun o blât glas yn dangos darlun o Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler © Norena Shopland
Manylun o blât glas yn dangos darlun o Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler © Norena Shopland

Manylun o blât glas yn dangos darlun o Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler © Norena Shopland
Manylun o blât glas yn dangos darlun o Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler © Norena Shopland

Mae’n anodd dweud os taw plât Crochendy Morgannwg oedd y cyntaf i gael ei gynhyrchu, neu plât gan  William Adams o Stoke. Ladies of Llangollen yw enw’r dyluniad hwn hefyd, gyda dwy fenyw mewn clogynnau marchogaeth yn sefyll dros ŵr sydd yn dangos pysgodyn mawr i’r ddwy. Yn y cefndir mae’r ceffylau, ac yn y pellter mae dau ŵr mewn cwch ar afon gyda phont drosti a bwthyn gwerinol ar y lan. Ar y gorwel mae mynydd Cadair Bedwyr.

Cynhyrchodd Adams gyfres grochenwaith dan y teitl ‘Native’ yn y 1820au, ac roedd y plât hwn yn rhan o’r gyfres honno. Yn fuan caffaelwyd y dyluniad gan F. ac R. Pratt o Fenton, Swydd Stafford gan ailenwi’r gyfers yn ‘Pratt’s Native Scenery’ a’i hatgynhyrchu rhwng 1880 a 1920. Prynwyd y busnes gan Cauldon yn y 1920au a cynhyrchwyd yr un dyluniad tan y 1930au.

Mae diddordeb mawr o hyd ym mywydau Eleanor a Sarah, yn enwedig wrth i ni drafod y diffiniad o berthynas lesbiaid yn y gorffennol. Er gwaetha’r diddordeb, prin yw’r sylw a roddir i’r crochenwaith glas a gwyn yma, a peth da yw cofio bod y gweithiau yma yn rhan o gasgliad LGBT Amgueddfa Cymru.

 

NORENA SHOPLAND

Awdur Forbidden Lives: LGBT stories from Wales a gyhoeddir gan wasg Seren, 17eg o Hydref, 2017

Gwefan: http://www.rainbowdragon.org

 

[1] Diolch i Andrew Renton, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru am gadarnhau