SuperSibs Tŷ Hafan

Megan Naish, Hwylusydd Addysg, 27 Mawrth 2024

Mae Amgueddfa Cymru wedi dechrau partneriaeth gyda Tŷ Hafan fel rhan o’n Rhaglen Teuluoedd a Blynyddoedd Cynnar. Yn y bartneriaeth hon, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda grŵp SuperSibs Tŷ Hafan, a grëwyd ar gyfer brodyr a chwiorydd plant â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Yn ein sesiynau, rydyn ni’n ysgogi’r plant gyda chrefftau, chwarae a gemau sy’n seiliedig ar agweddau o gasgliad ein hamgueddfa, megis ‘Diwrnod Darganfod Deinosoriaid’, ‘Dan y Môr’ a ‘Bwystfilod Bach’.

Mae rhai sesiynau yn cael eu cynnal yn yr Hosbis ei hun, sydd ger y traeth, a’r tir hardd o’i hamgylch yn rhoi lle i’r teuluoedd ymlacio, chwarae a chrwydro. Mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal ar-lein o’r amgueddfa, gan ddarparu fersiwn ddigidol a hygyrch y gellir ei gwneud gartref o’r gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio. Mae ein sesiynau yn aml yn canolbwyntio ar weithgareddau cymdeithasol mewn grŵp sy’n cynnig cyfle i blant chwarae a threulio amser gyda’i gilydd, tra’n gwneud defnydd o gasgliad trin a thrafod hyfryd yr amgueddfa. Mae’r gweithgareddau anffurfiol yn annog iddyn nhw sgwrsio, ymddiried a rhannu, sy’n gallu bod yn fuddiol ac yn bwysig i blant a allai fod â phrofiadau bywyd tebyg. 

Gan weithio gyda’r staff gwych yn Tŷ Hafan, rydyn ni’n gallu cyfrannu at yr amgylchedd positif, diddorol a chyfeillgar hwn drwy rannu ein hadnoddau a datblygu perthynas deilwng o ymddiriedaeth gyda theuluoedd hyfryd Tŷ Hafan!

Happy Easter Bulb Buddies

Penny Dacey, 26 Mawrth 2024

Thank you to all of the schools who have uploaded their weather and flower data before finishing for the holidays. Some of you are still collecting data this week and will be uploading it to the website on Thursday. Thank you for all of your hard work. 

Schools have shared some lovely comments about the project this week. Some of these are included to the right. 

After the holidays we will announce winners of the BulbCast video competition. In May we will send prizes out to all schools who have shared data. Before the end of the school year we will share a report that explores the weather and flower data and compares it to previous years. 

Thanks again Bulb Buddies,

Professor Plant

GRAFT Ionawr

Josh David-Read, 21 Mawrth 2024

“Waeth pa mor hir y gaeaf, mae’r gwanwyn yn sicr o ddilyn”. 

I lawer, Mawrth yw'r mis i ddechrau hau, plannu a chyffroi am flwyddyn yn llawn cynhaeaf. Ond dyw gwirfoddolwyr GRAFT heb aros a disgwyl am fis Mawrth – maen nhw wedi palu ’mlaen drwy dywydd oer y gaeaf yn tacluso a pharatoi’r ardd ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

 

Ar ôl ychydig wythnosau o ymlacio, roedden ni nol ar 12 ac 19 Ionawr. Gyda’r tywydd garw a’r toriadau pŵer yn yr Amgueddfa dyma ni’n cadw at waith cynnal a chadw, gan glirio rhai o’n gwelyau uchel a pharatoi gwelyau i’w plannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Tasg fwy cyffrous oedd trefnu’r holl hadau yn ôl y mis [Cyngor Craff] wnaeth ein helpu i gynllunio pa hadau oedd angen eu prynu gan ein cyflenwyr (Real Seeds, a’r Incredible Seed Hub) a threfnu amserlen dyfu y flwyddyn i ddod. 

Dyma ni hefyd yn clirio a thocio’r Fedwen a phlannu rhywfaint o ddraenen ddu a draenen wen. Bydd hyn yn gwneud y clawdd yn fwy deniadol i rywogaethau bywyd gwyllt (a gallwn ni hefyd gasglu mwyar blasus). 

Compost campus! Mae compost mor bwysig i'r ardd am lawer o resymau. Mae'n lleihau gwastraff a thirlenwi ac arbed dŵr, ac yn cyfoethogi'r pridd ac ychwanegu cymaint o ficro-organebau. Mae'n wych i'r amgylchedd – drwy gompostio gartref rydych chi’n lleihau eich ôl troed carbon drwy beidio â phrynu gwrtaith ffatri. [Cyngor Craff] Pethau da i’w taflu i’r pentwr compost yw: sborion ffrwythau a llysiau, gwaddod coffi, cregyn wyau (ond maen nhw’n cymryd amser i bydru), toriadau glaswellt a phlanhigion. PEIDIWCH ychwanegu: bara, cynhyrchion llaeth, reis ac unrhyw beth sydd ddim yn fioddiraddadwy, fel plastigion, papur sgleiniog, sticeri a rhai brandiau bagiau te. 

 

Arweiniodd Annie y gwirfoddolwyr GRAFT a thrigolion Gofal Dydd West Cross i wagio a hidlo’r pentwr compost, a thynnu mwydod allan i'w hychwanegu eto. 

Bob mis neu ddau bydda i’n rhannu’r newyddion diweddaraf am ein gwaith yn yr ardd. Byddwn ni’n rhannu unrhyw beth rydyn ni’n ei ddysgu, beth sydd wedi gweithio’n dda (a ddim cystal) ac unrhyw awgrymiadau i arddwyr (hen a newydd) eu defnyddio yn eich mannau gwyrdd eich hun. Bydda i hefyd yn cynnwys rysáit tymhorol o The Shared Plate gan ddefnyddio cynhwysion GRAFT. 

GRAFT Chwefror

Josh David-Read, 21 Mawrth 2024

“Does dim camgymeriadau wrth arddio – dim ond arbrofion.” Janet Kilburn Phillips

Yw Chwefror yn rhy gynnar i ddechrau plannu? Nawr mae hwn yn bwnc dadleuol yn y byd garddio… Ond fe wnaethon ni roi cynnig ar blannu cynnar.

Ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror dyma ni’n plannu winwns a phannas (hadau) yn uniongyrchol, plannu ffa a hau tomatos, planhigion wy, tsili, puprunnau a phys pêr cynnar. Dyma ni hefyd yn plannu llawrwydden mewn pot wrth y gegin a dau goesyn mwyar duon yng ngwely'r goedwig. Mae dechrau'n gynnar yn golygu proses egino arafach ond cnwd cynharach. 

 

 

Byddwn ni’n hau mathau gwahanol yn ddiweddarach i sicrhau rhagor o gnwd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. [Cyngor Craff] Dim ond os oes gennych chi ffrâm dyfu wedi'i chynhesu neu silff uwchben rheiddiadur y dylech chi ddechrau'n gynnar. 

Dyma ni’n arwain gweithdy ar greu cymysgedd potio. Eleni rydyn ni’n defnyddio dwy ran o’n compost ein hunain, dwy ran coir (rhisgl cnau coco), ac un rhan perlit. Mae hyn yn rhoi cyfle da i bob hedyn newydd. Yr unig anfantais o ddefnyddio eich compost eich hun yw'r chwyn ... rydyn ni wedi darganfod bod egino gyda'ch compost eich hun yn annog chwyn. Oes gennych chi gymysgedd potio arall rydych chi'n taeru sy'n ddelfrydol? Rhowch wybod i ni! 

Yn ddiweddarach yn y mis aeth Ian ati i atgyweirio'r gwelyau pren, gan ddysgu'r broses i ddau o wirfoddolwyr GRAFT. Dyma ni hefyd yn adeiladu chwe gwely uchel arall o haearn rhychiog, fydd yn dilyn ymyl wydr yr Amgueddfa. Gan fod hon yn rhan fwy cysgodol o'r ardd, rhaid i ni gynllunio'n ofalus beth i'w blannu. Dewch i gael golwg pan fyddwch chi’n ymweld nesaf, maen nhw'n edrych yn wych! I lenwi'r gwelyau dyma ni’n pacio’r gwaelod gyda chardfwrdd a llawer o doriadau a changhennau, cyn ychwanegu uwchbridd. Pan fydd y deunydd organig hwn yn dadelfennu bydd yn rhoi maetholion i'r pridd.

 

 

       

Ddiwedd Chwefror dyma ni’n plannu sbigoglys, ac amrywiaeth o berlysiau (teim, oregano, penrhudd, basil) yn y twnelau polythen. Dyma ni hefyd yn blaen-blannu ein tatws mewn bocsys wyau gyda'r 'llygaid' wyneb i fyny (chitting yn Saesneg). Pan fyddan nhw’n egino byddan nhw'n barod i’w plannu yn y ddaear. Does dim rhaid blaen-blannu wrth gwrs, gallwch chi eu rhoi nhw’n syth yn y gwely tyfu. [Cyngor Craff] Tyfu tatws gartref! Sawl gwaith ydych chi wedi dechrau ar y tatws stwns a chanfod taten yn egino? Gallwch chi dorri’r rhain yn hanner a'u gosod mewn pridd i gael cnwd mawr o datws cartref. Rhowch gynnig arni a rhoi gwybod sut hwyl gewch chi! 

 

Pwmpen wedi'i rhostio gyda thahini wedi'i chwipio

 

Digon i 4 person

 

Cynhwysion

1.2 k pwmpen o'ch dewis, wedi tynnu’r hadu a'i dorri'n dalpiau

3 llwy fwrdd o olew

1 winwnsyn coch, wedi'i dorri'n fân

Ychydig o finegr gwin coch

200g tahini

Ychydig o sudd lemwn

Llond llaw o ddail mintys

Halen a phupur

 

Dull

Cynheswch y ffwrn i 180 gradd

Rhostiwch y bwmpen (gydag ychydig o olew a halen) am 40 munud, gan ei droi hanner ffordd

Rhowch winwnsyn mewn powlen gyda finegr a phinsiad o halen a’i gymysgu’n dda

Mewn powlen arall, ychwanegwch 125ml o ddŵr oer at y tahini a’i chwisgio’n dda

Ychwanegwch sudd lemwn a halen at eich dant

I’w weini, rhowch y tahini ar y plât, a’r bwmpen, winwns picls, dail mintys wedi’u rhwygo a halen a phupur ar ei ben

 

Bob mis neu ddau bydda i’n rhannu’r newyddion diweddaraf am ein gwaith yn yr ardd. Byddwn ni’n rhannu unrhyw beth rydyn ni’n ei ddysgu, beth sydd wedi gweithio’n dda (a ddim cystal) ac unrhyw awgrymiadau i arddwyr (hen a newydd) eu defnyddio yn eich mannau gwyrdd eich hun. Bydda i hefyd yn cynnwys rysáit tymhorol o The Shared Plate gan ddefnyddio cynhwysion GRAFT.

Ŵyna a Newid Hinsawdd: Beth ydy'r Heriau yn Sain Ffagan?

Ffion Rhisiart, 20 Mawrth 2024

Ar raddfa eang, mae newid yn yr hinsawdd wedi ein gwneud ni i gyd yn ymwybodol o ba mor anrhagweladwy y gall y tywydd fod o flwyddyn i flwyddyn. Ond sut mae hyn wedi effeithio ar ŵyna yn Sain Ffagan a ffermio yng Nghymru yn gyffredinol? Wrth siarad ag Emma o dîm ffermio Sain Ffagan, dysgais sut mae newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar Sgrinwyna 2024.

Y newyddion da ydy bod eleni wedi bod yn haws o’i gymharu â 2023! Mae hyn o ganlyniad i fwy o law dros haf 2023 o’i gymharu â 2022, ac felly roedd digon o laswellt ar gael i fwydo’r defaid. Roedd y flwyddyn flaenorol i’r gwrthwyneb; yn ôl data’r Swyddfa Dywydd dim ond 13.0mm o law gafwyd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2022, tra gwelodd 2023 gynnydd syfrdanol i 185.6mm o law yn yr un mis. Mae haf sych a diffyg glaswellt naturiol yn golygu bod yn rhaid i’r fferm ddibynnu mwy ar wair a bwyd wrth gefn, gan arwain at gyflwr corfforol gwael a chyfraddau geni is wedi hynny. Mae angen monitro’r defaid yn gyson yn y cyfnod cyn ac yn ystod beichiogrwydd. Mae cael lefelau mwynau a fitaminau uchel i’r defaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ganddynt gyfraddau ffrwythlondeb a beichiogi uchel wrth gael eu hanfon at yr hyrddod. Gall diwallu eu hanghenion maethol hefyd sicrhau nad ydynt yn defnyddio eu stôr o egni wrth gefn yn anterth eu beichiogrwydd. Yn 2023 fe welsom 342 o ŵyn yn cael eu geni yn Sain Ffagan, ac eleni mae 444 o ŵyn wedi eu geni hyd yma (hyd at 19 Mawrth). Mae hyn yn cynnwys nifer sylweddol uwch o dripledi na’r cyfartaledd, yn ogystal ag un set o cwads!

Felly, a yw mwy o law bob amser yn beth da? Ydy a nac ydy, mae amodau gwlyb a sych yn dod â’u heriau unigryw eu hunain. Mae gormod o law yn arwain at gaeau sydd dan ddŵr a’r glaswellt yn llai tebygol o dyfu’n dda. Mae’r fferm yn Sain Ffagan yn arbennig ar dir isel ac felly’n sychu’n arafach. Gall draed y defaid bydru mewn amodau gwael o dan draed, sy’n gallu effeithio ar eu chwant bwyd, bydd eu coesau yn gwanhau gan nad ydyn nhw’n bwyta, ac o ganlyniad mae’n bosibl na allant feichiogi yn ystod y tymor paru.

Fel y gallwch weld, mae llawer o waith cynnal a chadw gydag ŵyna! Gall hyd yn oed y newid lleiaf effeithio ar ŵyna bob blwyddyn, felly mae ffermwyr eisoes yn barod ar gyfer y newidiadau mawr. Yng ngeiriau Emma: “mae’n rhaid i ni fod”. Mae ffermwyr ar hyd yr oesoedd wedi gorfod dod i adnabod eu tir a deall sut mae’r tir yn newid, ac mae tywydd eithafol, tra’n dod yn fwy cyffredin, wedi bod yn digwydd erioed. Yn gryno, mae bod yn barod ar gyfer pob digwyddiad posibl yn rhan annatod o’r swydd. Er bod y ffactorau yn newid yn barhaus, mae gan y tîm yn Sain Ffagan yr agwedd ffermwr cynhenid i ddal ati.

Ar y llaw arall, mae da byw yn gallu bod yn fwy anwadal. Arweiniodd sychder 2022 at anffrwythlondeb i rai o’r hyrddod; roedd hyn yn gallu cael ei synhwyro gan y mamogiaid ac o ganlyniad fe welwyd y tymor wyna yn ymestyn. Mae’r ŵyn wrth gwrs yn agored i niwed hefyd, prinder bwyd yn ystod sychder sy’n effeithio ar eu cyfraddau twf a gallu’r fam i ofalu am ei hŵyn. Mewn rhai achosion bydd yn rhaidd iddi flaenoriaethu ei llaeth a gadael un o’i hŵyn allan. Gall hwyliau cyffredinol defaid gael ei effeithio hefyd, maen nhw’n diflasu cymaint â ni mewn glaw parhaus! Llynedd, yn ystod cyfnodau o law cyson, byddai’r defaid yn gwrthod gadael y sied hyd yn oed pan oedd y drysau lled pen ar agor.

I gloi, rydyn ni’n gwybod bod y byd yn newid o hyd, ond felly hefyd ŵyna. Mae ffermwyr wedi arfer ag addasu a gwneud y mwyaf o’r hyn sydd ganddyn nhw. Diolch yn fawr iawn i Emma am gymryd yr amser i siarad â mi, a gobeithio eich bod chi wedi mwynhau gwylio Sgrinwyna 2024!

 

Gan Lowri Couzens, Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru

 

 

 

Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!