Ymunwch â'r miloedd o wyddonwyr ifanc sy'n ymchwilio i'r hinsawdd gydag Amgueddfa Cymru

Mae gwyddonwyr ifanc o bob cwr o'r DU yn defnyddio bylbiau cennin Pedr a crocws i astudio effeithiau newid hinsawdd. Mae'r astudiaeth yn gwella sgiliau gwyddoniaeth a rhifedd tu allan i'r dosbarth drwy gael disgyblion i blannu, arsylwi, a chadw cofnodion tywydd.

Bob blwyddyn mae 175 o ysgolion ar draws y DU yn cymryd rhan. Mae'r project yn cael ei gynnal yn Gymraeg a Saesneg, ac yn addas ar gyfer ysgolion mewn dinasoedd, trefi, a chefn gwlad. 

Dechreuodd yr astudiaeth hir-dymor yng Nghymru yn 2005, cyn ehangu i'r Alban a Lloegr yn 2011, ac i Ogledd Iwerddon yn 2017. Bydd Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26! 

Athro’r Ardd a’r Bwlb Bychan yw'r cymeriadau cartŵn sy'n arwain yr ymchwiliad. Maen nhw'n gwahodd plant i gymryd rhan, yn ateb cwestiynau'r disgyblion ac yn rhannu adnoddau a blogiau drwy gydol y project.

Sut mae’n gweithio:

  • Rhaid i ysgolion gofrestru yn ystod tymor yr haf – ar gyfer dechrau yn yr hydref.
  • Bydd y bylbiau yn cael eu plannu ar ddiwrnod penodol ym mis Hydref.
  • Rhwng Tachwedd a diwedd Mawrth bydd y disgyblion yn cadw cofnodion tywydd bob dydd. 
  • Rhwng Ionawr a diwedd Mawrth bydd y disgyblion yn arsylwi ac yn cofnodi tyfiant a blaguro.
  • Mae ysgolion sy'n cwblhau'r astudiaeth yn derbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac yn cael cyfle i ennill taith i amgueddfa neu ganolfan wyddoniaeth.

'Mae'n bleser cydweithio â Edina Trust, sy'n noddi'r astudiaeth ar draws y DU'

Dyma Beth Sydd Angen i Chi Wneud

1
Dewiswyd ysgolion ar gyfer 2023-24
2
Derbyn pecyn adnoddau yn gynnar ym mis Hydref
3
Plannwch eich bylbiau ym mis Hydref a chymerwch gofnodion tywydd o fis Tachwedd i fis Mawrth
4
Cofnodwch eich data tywydd a data blodau i'r wefan i ennill gwobrau 

Crynodeb

Nifer yr ysgolion wnaeth gymryd rhan eleni
Cartoon Onion
Tymheredd cyfartalog yr holl ysgolion
°C
Cartoon snail
Glawiad cyfartalog yr holl ysgolion
mm
Cartoon professor Plant
Cyfanswm y data a gasglwyd eleni
Cartoon world

Blog Blodau

gan Penny Dacey
2 Chwefror 2024

Calendar icon Calendr o Wythnosau pan Fydd Ysgolion yn Casglu Data Tywydd

2023

  • 30 Hyd – 3 Tach
  • 6 Tach – 10 Tach
  • 13 Tach – 17 Tach
  • 20 Tach – 24 Tach
  • 27 Tach – 1 Rha
  • 4 Rha – 8 Rha
  • 11 Rha – 15 Rha
  • 18 Rha – 22 Rha

2024

  • 8 Ion – 12 Ion
  • 15 Ion – 19 Ion
  • 22 Ion – 26 Ion
  • 29 Ion – 2 Chwe
  • 5 Chwe – 9 Chwe
  • 19 Chwe – 23 Chwe
  • 26 Chwe – 1 Maw
  • 4 Maw – 8 Maw
  • 11 Maw – 15 Maw
  • 18 Maw – 22 Maw
  • 25 Maw – 29 Maw