Morgrug Deildorrol

Dyma glip fideo byr (2 funud o hyd) sy'n dangos ein morgrug deildorrol yn dod â dail yn ôl i'w nyth. Nid ydynt yn bwyta'r dail, ond maent yn eu defnyddio i'w helpu i dyfu math arbennig o ffwng sy'n fwyd i'r morgrug.

Beth yw Morgrug Deildorrol?

Mae morgrug deildorrol yn torri dail o blanhigion a choed i dyfu ffwng yn fwyd iddynt. Fel arfer, maent yn byw mewn ardaloedd sych, trofannol a lled-drofannol yn Ne, Canolbarth a Gogledd America.

Ceir morgrug o feintiau amrywiol a chanddynt swyddi amrywiol.

Ceir morgrug canolig sy'n chwilota; marchforgrug mawr; a morgrug llai sy'n gofalu am y nyth a'r gerddi ffwng.

Mae gan y morgrug wrthfiotigau naturiol sy'n gwarchod y ffwng rhag plâu.

Nid yw'r morgrug yn bwyta'r dail, ond maent yn bwyta'r ffwng. Ni allai'r ffwng oroesi heb y morgrug. 'Cydymddibyniaeth' yw'r enw ar y berthynas hon, lle mae'r morgrug a'r ffwng yn elwa y naill oddi wrth y llall.

Ceir un frenhines. Hi sy'n cynhyrchu holl forgrug y nyth. Bydd yn byw am hyd at 17 mlynedd. Os bydd yn marw, bydd y nyth i gyd hefyd yn marw. Pan fydd oddeutu 14 mlwydd oed, bydd yn cynhyrchu morgrug gwryw a benyw sydd ag adenydd. Bydd y rheiny'n paru a bydd y breninesau beichiog newydd yn cymryd darn o'r ffwng gyda nhw ac yn hedfan i ffwrdd i ddechrau eu nyth eu hunain. Bydd y gwrywod yn marw.