Celf yn Ewrop wedi 1900


Orielau ar gau
Mae galeri blaen yr adran Hanes Natur wedi cau oherwydd gwaith cynnal a chadw. Mae gweddill yr orielau yn yr ardal hon ar agor. Ry’n ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu siom am hyn
Archebwch docyn ymlaen llaw i arddangosfa BBC 100 yng Nghymru
Gallwch nawr archebu eich tocyn am ddim i’r arddangosfa. Mae hefyd yn bosibl i gael tocyn wrth gyrraedd yr Amgueddfa. I arbed amser wrth gyrraedd, archebwch eich tocyn ymlaen llaw yma.
Datblygiad celf fodern yn Ewrop yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a welir yn yr oriel hon.
Roedd Argraffiadaeth wedi colli ei naws arloesol erbyn 1900 ac yn cael ei weld bellach fel arddull diogel, academaidd. Cefnodd artistiaid ar frwswaith bras, argraffiadol a dechrau cwestiynu’r angen i gynrychioli’r byd gweledol o gwbl.
Agorwyd drysau newydd i artistiaid diolch i waith Paul Cézanne a darganfyddiad celf ‘gyntefig’, gan gynnwys cerflunwaith o Affrica a chelf gwerin Ewrop. Drwy gydnabod y gallai nodweddion ffurfiol fel siâp, llinell, gwead a lliw fod yn llawn mynegiant eu hunain y datblygodd celf haniaethol.
Yn ddiweddarach aeth grŵp o artistiaid radical ati i sianelu dychymyg yr isymwybod. Dechreuodd y mudiad Swrreal ym Mharis yn y 1920au gan ddatblygu technegau artistig newydd i gyfleu breuddwydion a’r isymwybod. Fel gyda datblygiad celf haniaethol ddegawd ynghynt, lledodd dylanwad Swrrealaeth ledled Ewrop.

Lleoliad:
Oriel 14