Symud Cézanne, Monet a mwy!
Claude Monet (1840 – 1926)
Lilis Dŵr
1905
Olew ar gynfas
81.9x101cm
Rhodd gan Gwendoline Davies, 1952
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Pierre-Auguste Renoir (1841-1919)
La Parisienne
1874
Olew ar gynfas
163x108cm
Rhodd gan Gwendoline Davies, 1952
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Paul Cézanne (1839-1906)
Tirlun Provençal
Olew ar gynfas
81.2 x 65.7cm
Bequeathed by Gwendoline Davies, 1952
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Mae ein paentiadau a cherfluniau Argraffiadol enwog yn symud dros-dro i ran arall o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydyn ni’n gwneud gwaith trwsio ar y to uwchben rhai o’r orielau, sy’n golygu bod angen eu cau am gyfnod er mwyn cadw ymwelwyr a chasgliadau’n ddiogel. Bydd y rhan fwyaf o’r paentiadau yn cael eu symud i oriel 12. Y bwriad yw eu symud yn ôl tua diwedd 2022.
Beth sy’n symud?
Bydd y paentiadau yn cael eu harddangos dros-dro mewn oriel sydd ychydig yn llai. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn gallu arddangos cymaint o weithiau celf ag arfer. Ond fydd y paentiadau eraill ddim yn hel llwch mewn storfa - mae hwn yn gyfle i ni edrych ar y gweithiau mewn goleuni newydd. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn rhannu straeon am y projectau ymchwil sy’n digwydd tu ôl i’r llenni yma yng nghartref y casgliad cenedlaethol.
Sut allwch chi ddylanwadu ar yr oriel yn y dyfodol?
Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi ar sut y gallwn arddangos y gweithiau hyn yn y dyfodol. Pa ddarnau ydych hi’n hoffi eu gweld wrth ymweld â ni yng Nghaerdydd? Hoffech chi ddysgu mwy am eu hanes? Ydych chi eisiau gwybod mwy am yr artistiaid, y casglwyr, a’r bobl gafodd eu hysbrydoli gan y darnau?
Bydd ein ymgynghoriad ar-lein yn digwydd ar ddechrau 2022, felly cadwch olwg ar y dudalen hon a’n cyfryngau cymdeithasol i wybod mwy.