Canolfan Ddarganfod Clore

I blant o bob oed
Diolch i haelioni Sefydliad Clore Duffield mae’r oriel hon yn rhoi cyfle i chi weld a chyffwrdd gwrthrychau’r Amgueddfa, o bryfed i ffosilau ac arfau’r Oes Efydd. Canolfan Ddarganfod Clore yw'r oriel ryngweithiol lle rydych chi'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r 7.5 miliwn o eitemau sydd fel arfer wedi eu cuddio yn ein storfeydd.
Oriau Agor Canolfan Ddarganfod Clore
- Dydd Mawrth-dydd Gwener (yn ystod tymor yr ysgol): grwpiau sydd wedi archebu lle yn unig. Rydyn ni’n cynnal gweithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol – ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
- Dydd Gwener (yn ystod tymor yr ysgol) 1pm-4pm, Prynhawn y Plant: amser arbennig i chi a’ch plant bach archwilio’r oriel.
- Penwythnosau a Gwyliau Ysgol: ar agor i bawb.
Gallwch greu rhywbeth arbennig i fynd adref gyda chi ar ôl cael eich ysbrydoli gan eich ymweliad, neu gallwch grwydro’r orielau gyda mapiau arbennig [PDF] sydd ar gael am ddim.
Mae staff clên a chyfeillgar yr Amgueddfa wrth law i ateb eich cwestiynau, a gallwch hyd yn oed ddod â’ch gwrthrychau yma er mwyn i ni allu dweud beth ydyn nhw.
Gallwch cyffwrdd ac astudio nifer o'n gwrthrychau, a gyda chymorth yr arbennigwyr, adnabod eich casgliadau chi eich hun. Neu os ydych am wybod mwy am y darganfyddiadau diweddaraf ym myd celf neu archaeoleg, neu ddysgu beth fydd effaith y daeargryn diwethaf, oes gennym casgliad helaeth o wybodaeth ac adnoddau i'ch cynorthwyo.

Mae gan Canolfan Ddarganfod Clore hefyd ardal hyblyg ar gyfer gweithgareddau, sgyrsiau, perfformiadau ac arddangosfeydd. Mae llond y lle o adnoddau cyfoes - a glud a siswrn hefyd, ar gyfer y gwaith llaw yna.
Mae croeso i chi ymweld unrhyw adeg. Mae lle i grwpiau (yn grwpiau ysgol, neu yn grwpiau ffurfiol neu anffurfiol) hefyd ond mae angen trefnu ymlaen llaw.
Am fanylion pellach ynglŷn â digwyddiadau sydd ar y gweill, neu i ddarganfod mwy am sut gallwn ni ddarparu ar gyfer eich diddordebau chi, rhowch ganiad i ni ar (029) 2057 3142.