Digwyddiadau

DigwyddiadTanabata:Gŵyl y sêr / 日本: 七夕祭り

7 a 8 Gorffennaf 2018, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Tanabata yw Gŵyl y Sêr yn Japan.

Yn ôl y chwedl dim ond unwaith y flwyddyn y gall y duwiau Orihime a Hikoboshi gyfarfod. Ar seithfed diwrnod y seithfed mis mae Tanabata yn dathlu cyfarfyddiad y ddau gaiff eu cynrychioli gan sêr.

 

Mae’r Amgueddfa yn estyn gwahoddiad i chi ddathlu Tanabata gyda ni ac i fwynhau gweithdai, gweithgareddau a pherfformiadau dros y dathliad hafaidd traddodiadol.

Rhowch gynnig ar galigraffi Japaneaidd ac ysgrifennu’ch dymuniadau ar stribedi tanzaku lliwgar, cyn eu hongian ar goed bambŵ yn ôl y traddodiad. 

Bydd cyfle hefyd i wisgo kimono, dysgu sgiliau crefft ymladd, gwrando ar ddrymio Japaneaidd - a llawer mwy!

 

Byddwn yn dathlu Tanabata fel rhan o Kizuna, arddangosfa arbennig yn amlygu’r berthynas rhwng Cymru a Japan.

Noddir y digwyddiad hwn trwy haelioni Cymdeithas Sasakawa Prydain Fawr.

 

七夕は「星祭り」とも呼ばれています。

織姫と彦星が年に一度、7月7日に会うことを許されたという伝説が由来の一つであるといわれています。

この日本の夏の風物詩である七夕祭りを、カーディフ国立博物館で楽しみませんか? 

願いを書いた短冊を作って、笹に飾りましょう。他にも書道、浴衣お試し、武術デモンストレーションや和太鼓演奏など、様々な催し物があなたをお待ちしています。

七夕祭りは、日本とウェールズの絆を紹介する特別展の関連行事です。

本ィベントはグレートブリテン・ササカワ財団からご協力をいただきました。

 

 

 

Digwyddiadau