Digwyddiadau

DigwyddiadDatganiad Piano Beverley Gertsman

21 Medi 2018, 7PM - 10PM
Pris £21.50
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Tocynnau ar gael o Eventbrite

Y pianydd byd-enwog, Beverley Gertsman, yn perfformio mewn digwyddiad codi arian arbennig yn Amgueddfa Cymru.
 

7:00pm - 8:30pm - Darlithfa Reardon Smith

8:30pm - 10:00pm - Derbyniad Champagne Arbennig

 

Gyda gweithiau clasurol gan Frederic Chopin, Ludwig van Beethoven, a gweithiau o Ganada gan David Foster, Joni Mitchell, Victor Davies a llawer mwy.

Mae'r Arglwydd Aberdâr yn falch o gyflwyno Beverley Gertsman. Cyfarfu â hi yn Llundain, tra'r oedd hi'n astudio'r piano gyda Kendall Taylor fel un o ysgolorion yr English-Speaking Union. Mae Ms Gertsman hefyd wedi astudio gydag Irene Woodburn Wright yn Ottawa, gydag Esther Master ym Mhrifysgol McGill, Montreal a gyda Jacob Lateiner yn y Juilliard School of Music yn Efrog Newydd.

Mae Ms Gertsman wedi perfformio i'r Tywysog a'r Dywysoges Hitachi yn Japan, wedi cynnal dosbarthiadau meistr ac wedi ymddangos ar deledu cenedlaethol mewn sawl gwlad. Cafodd ei gwahodd i chwarae i Uchel Gomisiwn a Llysgenhadon Canada ledled y byd. Mae wedi chwarae yn y gynhadledd Ibero-Americanaidd dan nawdd Llysgenhadaeth Portiwgal yng Nghanada. Mae Ms Gertsman yn byw ac yn dysgu yn Toronto.

 

Tocynnau

Digwyddiadau