Arddangosfa: Cadair a Choron yr Eisteddfod
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Cadair yr Eisteddfod

Coron yr Eisteddod

Dyma gyfle i weld cadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn agos a dysgu mwy am eu gwneuthuriad. Cyflwynir y rhain i’r beirdd buddugol yn y prif gystadlaethau llenyddol.
Noddwyd y gadair gan Amgueddfa Cymru ac fe’i gwnaed gan Chris Williams o Pentre, Rhondda.
Noddwyd y goron gan Brifysgol Caerdydd ac fe’i gwnaed gan Laura Thomas o Gastell-nedd.
Bydd y gadair a’r goron yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa tan 2 Awst. Ewch i brofi bwrlwm Eisteddfod ddinesig 2018 ym Mae Caerdydd rhwng 3 ac 11 Awst.