Digwyddiadau

ArddangosfaKyffin Williams: yr arlunydd ac Amgueddfa Cymru

3 Awst 20181 Mai 2019
Pris Am Ddim
Addasrwydd pawb

Yn 2018 mae’n ganmlwyddiant geni John Kyffin Williams (1918–2006), a gaiff ei ystyried yn arlunydd tirluniau mwyaf poblogaidd a mwyaf toreithiog Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Wedi’i eni yn Llangefni ym 1918, parodd gyrfa Kyffin dros chwe deg o flynyddoedd. Datblygodd arddull bersonol a nodweddiadol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar dir gwledig Eryri, ei bythynnod a’i ffermwyr mynydd.

Roedd gan Kyffin hanes hir a diddorol gydag Amgueddfa Cymru – fel artist, ac fel aelod o’r pwyllgor celf am flynyddoedd o’r 1960au ymlaen. Y berthynas honno sy’n diffinio’r arddangosfa hon, trwy gyfrwng gweithiau celf a deunydd archif.

Llun gan Kyffin Williams

‘Ffermwyr ar y Carneddau’ gan Kyffin Williams

Amgueddfa Cymru

Rhif derbyn: NMW A 2364; Olew ar gynfas, tua 1980

© Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Digwyddiadau