Digwyddiadau

Digwyddiad: ARchwiliwr Amgueddfa: Canllaw rhyngweithiol i’r orielau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
O 8 Medi 2020
Pris £10 yr awr gyda blaendal y gellir ei gael yn ôl
Addasrwydd Pawb
ARchwiliwr Amgueddfa yn oriel Esblygiad Cymru

ARchwiliwr Amgueddfa: Antur y Deinosoriaid a’r Creaduriaid Cynhanesyddol

ARchwiliwr Amgueddfa: Antur Gardd Lilïau Dŵr Monet

ARchwiliwr Amgueddfa: Antur Gardd Lilïau Dŵr Monet

Profwch yr Amgueddfa gyda lledrith Realiti Estynedig (AR)

Casglwch uned o'r siop a dewiswch rhwng y profiadau canlynol, ar gael yn y Gymraeg, Saesneg neu Japaneg:

  • Antur Lilïau Dŵr Enwog Monet

    Dysgwch fwy am yr hyn a ysbrydolodd lilïau dŵr Monet, a dysgu mwy am y paentiadau yn yr oriel; cadwch lygad am Monet a'r chwiorydd Davies a gasglodd y rhan fwyaf o'r lluniau hyn.

  • Antur y Deinosoriaid a'r Creaduriaid Cynhanesyddol

    Dewch i weld y deinosoriaid oedd yn teyrnasu yn ne Cymru 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl; cewch weld eu sgerbydau'n dod yn fyw, a cwrdd â'r creaduriaid cynhanesyddol oedd yn byw yn y môr

  • Antur Dan y Môr a'i Donnau

    Plymiwch o dan y tonnau i weld ein casgliad o greaduriaid y môr yn dod yn fyw yn oriel y môr – cadwch lygad am y search!

Pris: £10 yr awr gyda blaendal y gellir ei gael yn ôl.

Amser a awgrymir ar gyfer pob antur: 20 minutes

Ymweld

 

 

Digwyddiadau