Arddangosfa: Artes Mundi 8

Bydd arddangosfa Artes Mundi 8 ar gau i ymwelwyr ar ddydd Iau 24 Ionawr.
Sefydliad celfyddydol â ffocws rhyngwladol yw Artes Mundi sydd â’i gartref yng Nghymru. Mae’n adnabod, yn cydnabod ac yn cefnogi artistiaid gweledol cyfoes sy’n mynd i’r afael â beth mae’n ei olygu i fyw yn y byd heddiw, o safbwynt cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol a sut mae celfyddyd yn gallu ymgysylltu â chymdeithas mewn ffyrdd ystyrlon a defnyddiol. Mae’r arddangosfa a gwobr ryngwladol eilflwydd yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer eu hwythfed rhifyn, Artes Mundi 8. Detholiad amrywiol yw’r rhestr fer eleni o artistiaid rhyngwladol sy’n rhychwantu gwahanol genedlaethau a diwylliannau ac sy’n cynnwys rhai o arloeswyr gwaith celf cyfoes cyfredol ar lwyfan y byd. Yr artistiaid dan sylw yw:
- Anna Boghiguian (Canada/Yr Aifft)
- Bouchra Khalili (Moroco/Ffrainc)
- Otobong Nkanga (Nigeria/Gwlad Belg)
- Trevor Paglen (UDA)
- Apichatpong Weerasethakul (Gwlad Thai).
Mae’r gwaith yn yr arddangosfa’n ymestyn dros bedwar cyfandir ac amrywiaeth o ddulliau artistig, o arluniau, peintiadau, torion a gosodweithiau gwleidyddol eu naws Anna Boghiguian sy’n bwrw golwg dros globaleiddio ac economïau cymhleth grym, i ymchwiliad deheuig Bouchra Khalili i wrthsafiad, lleiafrifoedd a hunaniaeth drwy ei defnydd o ffilm, yn aml mewn cydweithrediad â’r bobl dan sylw. Mae manylder a hud tapestrïau a gosodweithiau Otobong Nkanga a’i defnydd o fwynau a deunydd organig yn gofyn cwestiynau am ein perthynas sy’n prysur newid â’r tir a chynysgaethau trefedigaethol, mae defnydd unigryw Trevor Paglen o ffotograffiaeth, cydweithrediad gwyddonol a newyddiaduraeth yn cynnig cyfle i’r gwyliwr i weld yr hyn nas gwelir, gan ymchwilio i arferion tywyll llywodraethau, gwyliadwriaeth a strwythurau awdurdod cudd, tra bydd ffilmiau myfyriol a breuddwydiol Apichatpong Weerasethakul yn edrych ar ysbrydion gorffennol Gwlad Thai, gofodau trothwyol y cof a hunaniaeth a chydymwybyddiaeth a chydberthyn.
Bydd enillydd Artes Mundi 8 yn derbyn £40,000 sterling yn wobr neu swm cyfwerth mewn arian lleol. Cyhoeddir yr enillydd 24 Ionawr 2019.
Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa:
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.artesmundi.org
Twitter: @ArtesMundi
Instagram: @ArtesMundi
Facebook: /artesmundi
#ArtesMundi8
Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa: