Digwyddiadau

Digwyddiad: Y Gwir i Gyd yn yr Amgueddfa / Adolygiad BAME

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
27 Hydref 2018, 5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle www.Eventbrite.co.uk

Bokani

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd saif penddelw o'r Pennaeth Bokani yn dawel ar silff wydr. Yn ôl y label, roedd yn bennaeth pigmi o'r Congo arferai 'berfformio ar lwyfannau Llundain' yn Oes Fictoria.

Ond ai dyma'r gwir i gyd?

Mae’n bwysig deall pwy sy'n adrodd yr hanes, a sut.  Drwy gerddi a llythyron agored, straeon ac ar lafar mae pobl ifanc wedi edrych o'r newydd ar hanes y Pennaeth Bokani.  Dewch i'w clywed yn rhannu eu geiriau, neu cymerwch ran drwy fachu lle agored.

I ganfod y gwir i gyd, archebwch le: www.Eventbrite.co.uk

Cyflwynir gan Duree Shahwar a Hannan Issa, cyd-sylfaenwyr Where I’m Coming From | BAME Open Mic.

Digwyddiadau