Digwyddiadau

DigwyddiadCwrs: Bywluniadu yn yr Amgueddfa

Wedi'i Orffen
30 Mawrth, 13 Ebrill a 4 Mai, 5pm - 7pm
Pris £75 am y tri sesiwn
Addasrwydd 18+
Archebu lle Eventbrite

I nodi 500 mlynedd ers marwolaeth Leonardo da Vinci, byddwn yn arddangos deuddeg o ddarluniau gorau'r athrylith fel rhan o #Leonardo500 – dathliad cenedlaethol o'r artist anhygoel hwn.

Byddwn yn cynnal 3 sesiwn arbennig o fywluniadu yn yr oriel, lle gallwch ymarfer eich sgiliau a chael eich ysbrydoli gan y campweithiau o'ch cwmpas – gan gynnwys gwaith Leonardo, Dyn noeth yn sefyll.

Tocynnau

Dyddiadau'r Cwrs:

30 Mawrth - 5pm - 7pm

13 Ebrill - 5pm - 7pm

4 Mai - 5pm - 7pm

 

Caiff y sesiynau eu hwyluso gan yr artist Gareth Coles, Cyfarwyddwr Celfyddydau Gwirfoddol Cymru. Mae ganddo radd mewn Celf Gain ac MA mewn Hanes Celf Ganoloesol o'r Courtald Institute of Art yn Llundain.

Bydd y cwrs yma yn cael ei cynnal yn ddwyieithog.

 

Mae'r cyfle arbennig hwn i ddarlunio mewn oriel o waith Leonardo yn costio £75 am y 3 sesiwn, ac yn cynnwys pris mynediad i'r arddangosfa.

 

Sylwer: Dewch a’ch defnyddiau darlunio eich hun. Dim ond pennau a pasteli sydd yn gallu cael ei defnyddio yn yr Oriel.

Addasrwydd: 18+

Tocynnau

 

Digwyddiadau