Digwyddiadau

DigwyddiadTaith Iaith

Wedi'i Orffen
28 Mawrth 2019, 12.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Dysgwyr Cymraeg
Archebu lle Archebwch wrth gyrraedd, nifer benodol o lefydd

I nodi 500 mlynedd ers marwolaeth Leonardo da Vinci, byddwn yn arddangos deuddeg o ddarluniau gorau'r athrylith fel rhan o #Leonardo500 – dathliad cenedlaethol o'r artist anhygoel hwn.

Daw'r darluniau o'r Casgliad Brenhinol, sy'n cynnwys casgliad gorau'r byd o waith Leonardo

Mae'r gweithiau gaiff eu dangos wedi'u dewis i adlewyrchu holl ddiddordebau Leonardo da Vinci – paentio, cerfluniau, pensaernïaeth, cerddoriaeth, anatomeg, peirianneg, cartograffeg, daeareg a botaneg

Ymunwch â ni i weld  â'i ddefnydd o wahanol gyfryngau, yn ysgrifbin ac inc, sialc coch a du, dyfrlliw a phwyntil metel.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â carla.price@amgueddfacymru.ac.uk

Digwyddiadau