Digwyddiad: Galw draw a darlunio

Grŵp Darlunio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ydych chi'n hoff o ddarlunio? Awydd cwmni wrth wneud hynny? Dyma gyfle i gyfarfod pobl sy'n dwlu darlunio i rannu profiadau a gwneud ffrindiau newydd mewn awyrgylch anffurfiol.
Does dim arweiniad i'r sesiwn, ond mae'n gyfle i chi gyd-ddarlunio. Cyfarfod wrth y Dderbynfa yn y Brif Neuadd. Does dim rhaid aros yn yr orielau celf, gallwch chi fynd i ddarlunio'r deinosoriaid hefyd.
Mae croeso i bobl ddarlunio ym mhob un o orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae cadeiriau ar gael i ymwelwyr hefyd.
Gyda'r cyfan am ddim, felly gallwch alw heibio am 10 munud neu aros am yr awr gyfan.
Dyma farn aelodau rhai o'r grwpiau darlunio diweddaraf:
"Wedi bod eisiau dod i ddarlunio ac ymgolli mewn celf ers tro, ond yn teimlo'n swil ar ben fy hun."
"Mae'r grŵp yn rhoi mwy o hyder i fi fynd ati, a'r ysgogiad i adael y tŷ a dod draw yma.
"Syniad gwych! Mae wedi gwneud i mi oedi a sylwi ar fwy o fanylion yn y cerfluniau a'r paentiadau."
Mae darlunio yn dda iawn ar gyfer iechyd meddwl. Dewch draw i roi cynnig arni!