Digwyddiadau

DigwyddiadGrŵp Darlunio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

5 Mawrth9 Ebrill 2019, 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Galw Heibio

Ymunwch â grŵp darlunio newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru.

Ydych chi'n hoff o ddarlunio? Awydd cwmni wrth wneud hynny? Yna galwch draw i'n grŵp, does dim rhaid ymrwymo i unrhyw beth!

Bob wythnos, bydd y grŵp yn symud i leoliad newydd yn yr Amgueddfa. Nid dosbarth yw hwn, ond bydd help wrth law gan yr artist profiadol, Gareth Coles o Gelfyddydau Gwirfoddol Cymru.

Mae'r grŵp am ddim, a chaiff ei gynnal ar ddydd Mawrth am 6 wythnos i ddechrau. Byddwch yn cyfarfod yn y Brif Neuadd am 1 cyn mynd draw i leoliad yr wythnos. Gallwch alw heibio am 10 munud, neu aros am yr awr gyfan.

Mae darlunio yn dda iawn ar gyfer iechyd meddwl. Os ydych awydd rhoi cynnig arni, dewch draw!

Grŵp Darlunio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Grŵp Darlunio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Oriel gelf
Digwyddiadau