Arddangosfa: Nadroedd!



Dewch i ddysgu am fywyd rhyfeddol nadroedd mewn arddangosfa i'r teulu cyfan.
Bydd yr arddangosfa haf hon yn taflu goleuni ar fywydau’r creaduriaid hardd, cymhleth a diddorol hyn.
Cewch gwrdd â nadroedd byw, gan gynnwys boa constrictor a pheithon brenhinol; dysgu am bwysigrwydd cadwraeth; a darganfod sut beth yw byw mewn gwlad lle mae pobl yn dod ar draws nadroedd peryglus bob dydd.
Bydd pob math o wrthrychau i'w gweld, gan gynnwys sgerbwd peithon Byrma, nadroedd wedi'u cadw a lluniau o nadroedd o bob cwr o'r byd. Rhowch gynnig ar bosau, cwis nadroedd, a phob math o weithgareddau i bob oed. Cewch hyd yn oed ddysgu beth yw eich pwysau mewn nadroedd!
Mae Nadroedd! yn arddangosfa deithiol a grëwyd gan Blue Tokay, gyda chynnwys ychwanegol o gasgliadau gwyddorau naturiol Amgueddfa Cymru. Cefnogir yr arddangosfa gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Prynwch eich tocynnau ar ddiwrnod eich ymweliad. Nid yw'n bosibl prynu tocynnau ymlaen llaw. Mynediad olaf am 4pm.
Pris tocyn | |
---|---|
Oedolion (19 oed +) | £7.50 |
Gostyngiad | £5.50 |
Plant (4-18 oed) | £3.50 |
Teulu (1 oedolyn a 3 phlentyn) | £15.50 |
Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) | £18.50 |
Digwyddiadau sy’n cefnogi’r arddangosfa: