Digwyddiad: Hwyrnos: Y GOFOD

Croeso i Hwyrnos: Y GOFOD – digwyddiad wedi'i drefnu ar y cyd â TactileBOSCH a Blue Honey ac mewn partneriaeth â FOR Cardiff, sy'n pontio'r bwlch rhwng amgueddfeydd, celf, diwylliant clybio ac addysg.
Mae'r cosmos wedi ysbrydoli artistiaid, astronomegwyr a meddylwyr ers milenia. Ers cyn cof mae artistiaid wedi ystyried a myfyrio am y cyflwr dynol. A pa gwestiwn mwy na'n bodolaeth ni ar y blaned unig hon, mewn bydysawd dirgel sy'n ehangu'n barhaus?
Bydd y fenter fawr, uchelgeisiol hon yn gweddnewid gofodau mawr a bach yr Amgueddfa yn freuddwyd alaethol i ymgolli ynddi.
Yng nghanol bwrlwm DJs rhyngwladol, fideos, perfformiadau, cerddoriaeth fyw, dawns, celf gyfrannog, a theatr bydd sêr casgliadau arallfydol yr Amgueddfa – ar fenthyg drwy garedigrwydd y bydysawd ei hun!
Dewch i ymgolli yn y digwyddiad creadigol, newydd hwn a mwynhau naws ddychmygus yr Amgueddfa liw nos, dal gwrthrychau a gwympodd o'r ffurfafen, a dawnsio a siarad tan berfeddion.
Dilynwch yn ôl troed Laika, Buzz, Neil, Svetlana a Tim ac ymuno â ni yn Hwyrnos: Y GOFOD ar 18 Gorffennaf!
Tocynnau: £23
Mae hwn yn ddigwyddiad 18+
** GWEITHGAREDDAU YCHWANEGOL CYFYNGEDIG**
Archebwch eich tocyn ond cofwich ystyried ein gweithgareddau ychwanegol cyn gwneud eich taliad!
Wynebau Gliter o'r Gofod gan Dizzy Pineapple
Dewch i baratoi am barti a phaentio wynebau gliter gyda merched Dizzy Pineapple. Bydd gliter a gemau o bob lliw a llun, a dewis cyfeillgar i'r amgylchedd ar gael hefyd.
Gostyngiad cyn-ddigwyddiad: £3.50
Pris ar y drws: £4
Tu ôl i'r Llen
Dewch gyda ni ar daith arbennig drwy'r casgliadau celf a dysgu sut y cafodd artistiaid dros y canrifoedd eu hysbrydoli gan y sêr. Byddwn ni'n taflu goleuni newydd ar rai o weithiau celf pwysicaf y wlad ac yn codi'r llen ar rai o ofodau cudd yr Amgueddfa.
Pris: £6
Tocynnau o flaen llaw yn unig
Profiad Rhithwir
Dewch i ofodgerdded ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) yn ein profiad rhithwir arbennig!
Edrychwch i lawr ar ein mam-blaned wrth geisio trwsio'r ISS eiconig.
Defnyddiwch yr offer VR diweddaraf, a chael cipolwg bythgofiadwy ar y gofod!
Pris: £5
Tocynnau o flaen llaw yn unig
Mae rhai staff yn siarad Cymraeg, rhai'n dysgu ac eraill yn siarad Saesneg yn unig. Cadwch lygad am y llinynnau Iaith Gwaith sy'n dangos pwy yw pwy. Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni!