Digwyddiad: Cwrdd â’r Nadroedd

Hoff o nadroedd? Dewch draw i un o’r sesiynau cyffwrdd arbennig yn yr Amgueddfa!
Caiff y sesiynau eu cynnal gan ofalwyr nadroedd profiadol a brwdfrydig, sy’n berchen ar nadroedd eu hunain. Byddant yn dod ag amrywiaeth o nadroedd gyda nhw, fel neidr ŷd a boa gyffredin, a bydd cyfle i chi gydio yn y creaduriaid hynod. Mae’r gofalwyr nadroedd hefyd yn llawn gwybodaeth am gynefin ac ymddygiad y nadroedd hyn.
Mae’r sesiynau cyffwrdd yn digwydd am 11am, 1pm a 3pm ac yn costio £5 y pen. Mae tocynnau ar gael o Eventbrite. Dewiswch docyn ar gyfer sesiwn Gymraeg neu Saesneg.
Cynhelir sesiynau 11am ac 1pm yn Saesneg, a bydd y sesiwn 3pm yn Gymraeg.
Cofiwch fod nadroedd, fel pob anifail arall, yn cael dyddiau gwael. Allwn ni ddim sicrhau y bydd pob neidr ar gael ar gyfer pob sesiwn. Nid yw unrhyw un o’r nadroedd hyn yn wenwynig. Mae’r risg o gael eich brathu gan neidr yn isel iawn, ond mae’r gofalwyr yn hynod brofiadol ac yn nabod y nadroedd yn ddigon da i leihau’r risg hwn. Dylech olchi’ch dwylo ar ôl cyffwrdd yn y nadroedd.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r arddangosfa Nadroedd!
Mae rhai staff yn siarad Cymraeg, rhai’n dysgu ac eraill yn siarad Saesneg yn unig. Cadwch lygad am y llinynnau Iaith Gwaith sy’n dangos pwy yw pwy. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni!
Sylwer: nid yw'r pris hwn yn cynnwys mynediad i arddangosfa 'Nadroedd!' Ewch i dudalen yr arddangosfa am fwy o fanylion ynghylch cynnwys a phrisiau