Digwyddiad: Cymru Anhysbys – diwrnod i ddathlu bywyd gwyllt Cymru


Adar swil, siarcod prin a gwenyn prysur – dyma rai o bynciau ‘anhysbys’ cynhadledd Cynhadledd Cymru Anhysbys eleni. Bydd cyfle i ddysgu am Jac y Neidiwr, planhigyn hardd ond ymledol, a llwydni llysnafeddog, sydd ddim yn llysnafeddog nag yn llwydni! Bydd gwybodaeth am brojectau cyhoeddus ar draws Cymru, gan gynnwys manylion sut i gymryd rhan a darganfod bywyd gwyllt Cymru.
Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Sut i archebu lle
Mae Cymru Anhysbys yn ddigwyddiad am ddim. Rhaid talu blaendal o £5 eleni. Byddwch yn cael y blaendal hwn yn ôl pan fyddwch yn cofrestru wrth gyrraedd y digwyddiad – caiff ei dalu’n ôl i’ch cyfrif banc o fewn 5 diwrnod gwaith.
Bydd cyfle hefyd i chi roi eich blaendal fel cyfraniad at gostau’r gynhadledd. Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig.
Os byddwch yn archebu ond ddim yn mynychu’r gynhadledd, bydd eich blaendal yn cael ei gadw tuag at gostau’r gynhadledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.
Bydd arbenigwyr y gynhadledd yn cynnal eu sgyrsiau yn Saesneg, ond gallwn ddarparu dehongliad Cymraeg. Er mwyn i ni drefnu dehongliad Cymraeg, cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn gynted â phosibl, o leiaf wythnos cyn y digwyddiad.
Pam ein bod wedi cyflwyno blaendal?
Mae’n bwysig cael syniad cywir o faint sy’n mynychu, er mwyn ceisio cadw costau’r gynhadledd mor isel â phosibl, er diogelwch, ac i wneud yn siŵr fod pawb sydd eisiau dod yn gallu gwneud hynny. Yn 2018, roedd 300 o bobl wedi archebu lle, ond dim ond 200 wnaeth fynychu ar y diwrnod.