Digwyddiadau

Digwyddiad8: Ffilm a Thrac Sain Byw

Wedi'i Orffen
8 Awst 2019, 8pm
Pris £5 - £9
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle www.ticketweb.uk

8: Ffilm a Thrac Sain Byw - Prosiect sy'n tynnu sylw at y straen parhaol ar ein hamgylchedd o ganlyniad i ddiwydiant a'r creithiau a adawyd yn ei sgil.

Ffilmiwyd 8 safle llygredig yn amgylcheddol ledled Cymru â chamera ffilm Super 8.

Diweddglo’r prosiect yw creu trac sain byw i gyd-fynd â'r ffilm yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd,

lle bydd casgliad o gerddorion ac artistiaid Cymreig yn cydweithio am un noson yn unig!

Tocynnau

 

Mae'r artistiaid yn cynnwys:

Toby Cameron

Cian Ciarán

The Gentle Good

Teddy Hunter

Kris Jenkins

Secondson

Meilyr Tomos

 

Ariannwyd y prosiect hwn gan ‘Help Musicians UK’ trwy'r Fusion Fund.

Gellir cyrraedd Darlithfa Reardon Smith trwy'r drws ar Blas y Parc. Bydd mynedfa'r de yn agor am 7pm.

8: Ffilm a Thrac Sain Byw

8: Ffilm a Thrac Sain Byw

Digwyddiadau