Digwyddiad: Amgueddfa Dros Nos: Deffro Gyda Dippy!
Gwahoddiad unigryw – dewch i ddarganfod beth sy’n digwydd yn yr Amgueddfa wedi iddi nosi...ac aros y nos gyda gwestai arbennig Dippy y Diplodocus!
Dyma fydd yn digwydd:
- Taith dan olau fflachlamp i archwilio Cymru fel yr oedd 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Cyfarfod ambell i ddeinosor cyfeillgar a gwylio’r wyau’n deor mewn sioe i’w chofio
- Gweithdai crefft – wedi’u hysbrydoli gan ffosilau, olion troed ac esgyrn o gasgliad yr Amgueddfa
- Siocled poeth a danteithion o bob math i’ch cynhesu
- Ffilm cyn gwely yn ein theatr fawreddog – cyn cysgu o dan y gromen fawr...a breuddwydio am wlad y deinosoriaid gyda Dippy!
- Deffro’n gynnar i gael brecwast a chyfle i ymweld â oriel Esblygiad Cymru cyn mentro’n ôl i’r 21ain ganrif.
___________________________________________________________________________
Bydd digwyddiad arferol Amgueddfa Dros Nos yn edrych fel hyn:
5.30pm - Drysau'n agor a chofrestru
6.15pm - Cau'r drysau, dim mynediad wedi hyn
6.15pm - Rhannu'r gwesteion yn grwpiau, a'r arweinwyr tîm yn briffio
6.30pm–9.15pm - Gweithgareddau, Blwch Danteithion a Siocled Poeth
9.15pm - Mynd draw i Ddarlithfa Reardon Smith
9.30pm - Ffilm yn dechrau
11.20pm - Diwedd y ffilm, nôl i'r Brif Neuadd i baratoi gwelyau
12.00am - Diffodd y golau
7.00am - Amser codi
7.45am - Brecwast
8:00am - Oriel Esblygiad Cymru yn agor
9.00am - Diwedd y digwyddiad
Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i addasu'r amserlen a'i chynnwys os oes angen gwneud hynny er mwyn sicrhau digwyddiad diogel a hwyliog.
Gwybodaeth Bwysig:
- Mae'r digwyddiad hwn yn addas i blant 6-12 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
- Rhaid archebu ymlaen llaw. Ni ellir rhoi ad-daliad wedi i'r archeb gael ei gwneud. Nid oes modd trosglwyddo tocynnau. Caiff amgylchiadau arbennig eu hystyried yn ôl disgresiwn Rheolwr y Digwyddiad.
- Bydd drysau'r Amgueddfa'n agor am 5.30pm ar gyfer croesawu a chofrestru. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6.15pm, ni fydd mynediad ar ôl hynny.
- Darllenwch ddogfen Cwestiynau Cyffredin yn ofalus cyn archebu tocynnau.
- Ein staff gwybodus a chyfeillgar fydd yn arwain y noson, felly bydd rhai ohonynt yn gallu siarad Cymraeg, eraill yn dysgu a rhai yn siarad Saesneg yn unig. Cadwch lygad am yr arwydd Iaith Gwaith os am wybod pwy yw pwy. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gyfer y gweithgareddau yn ddwyieithog, a bydd y ffilm yn cael ei dangos yn ei hiaith wreiddiol, sef Saesneg.

