Digwyddiadau

DigwyddiadSioe Iwami Kagura

Wedi'i Orffen
27 Medi 2019, 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae'n bleser gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyflwyno sioe Iwami Kagura ar ymweliad undydd i Gymru o Sefydliad Japan yn Llundain.

Y perfformwyr yw grŵp 'Otsu Kagura', syn cynnwys nifer o bobl ifanc sy'n arddel traddodiad dawns Kagura yn Japan. Byddan nhw i'w gweld ar y llwyfan yng Ngŵyl Japan yn Llundain ar 29 Medi.

O'i gymharu â chelfyddydau perfformio traddodiadol Japan, fel Kabuki a Noh, Kagura yw'r hynaf gyda'i wreiddiau yn chwedlau hynafol y wlad. Yn wreiddiol ai'r ddawns ei chyflwyno'n offrwm i groesawu a diddanu'r duwiau shinto.                                                                                                                                 

Bydd y perfformiad yn dechrau fel arfer gyda dawn ddefodol i groesawu'r duwiau, gyda'r perfformwyr mewn gwisgoedd gwych wedyn yn dawnsio i rhythm offerynau traddodiadol Japan.

Caiff y sioe ei pherfformio yn y Brif Neuadd.Cyflwyniad ar y cyd â Sefydliad Japan i ddathlu Tymor Diwylliant Japan-DU 2019-20

 

Digwyddiadau