Sgwrs: Sgwrs: Kagura



Gan yr Athro Terence Lancashire, Pifysgol Osaka Ohtani
Defod yw Kigura gaiff ei pherfformio yn bennaf mewn temlau Shinto, ac mae'n un o bum prif categori celfyddyd berfformio Japan yn ôl diffiniad yr Asiantaeth Materion Diwylliannol. Mae gwreiddiau Kagura yn nawns chwedlonol y dduwies Ame no Uzume no Mikoto.
Bydd yr Athro Lancashire yn trafod tarddiad a datblygiad y ddefod ddiddanu hynafol hon, ac yn edrych hefyd ar y traddodiadau sydd wedi goroesi.
Mae'r sgwrs hon yn ategu sioe Iwami Kagura gaiff ei pherfformio yn y Brif Neuadd.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg, ond rydym yn hapus i drefnu hwylusydd Cymraeg. Er mwyn rhoi cyfle i ni drefnu hwylusydd, gofynnwn i chi e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk o leiaf wythnos cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.
Cyflwyniad ar y cyd â Sefydliad Japan i ddathlu Tymor Diwylliant Japan-DU 2019-20