Digwyddiadau

SgwrsSgwrs: Dewch i gwrdd â Dippy

19 Hydref 2019, 1.30pm, 3pm
Pris £2
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle www.eventbrite.co.uk

Dewch i sgwrs ddelfrydol i deuluoedd gan Dr Caroline Buttler, Pennaeth Palaeontoleg, i glywed mwy am Dippy y Diplodocus. Cewch glywed stori ei ddarganfod a'i daith hir i Lundain – stori sy'n cynnwys y gorllewin gwyllt, brenin ac un o'r dynion mwyaf cyfoethog yn y byd! Byddwn yn dysgu mwy am gartref ac oes Dippy a sut mae palaeontolegwyr wedi dod i ddeall cymaint am fywyd Dippy'r deinosor anhygoel.

Dippy oedd y deinosor cyntaf i Caroline ei weld pan oedd hi'n 6 oed ac mae hi'n dal i drysori'r cardiau post du a gwyn a brynodd bryd hynny.

Tocynnau

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg, ond rydym yn hapus i drefnu hwylusydd Cymraeg. Er mwyn rhoi cyfle i ni drefnu hwylusydd, gofynnwn i chi e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk o leiaf wythnos cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.

 

Dippy ar Daith
Caroline Buttler
Digwyddiadau