Digwyddiadau

SgwrsSgwrs: Deinosoriaid a Diffeithwch yng Nghymru

Wedi'i Orffen
10 Tachwedd 2019, 12pm, 1.30pm, 3pm
Pris £2
Addasrwydd 8+
Archebu lle www.eventbrite.co.uk

Dyma sgwrs ddelfrydol i deuluoedd gan Cindy Howells, Curadur Palaeontoleg, am y deinosoriaid fu'n crwydro'r diffeithwch yng Nghymru dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Sut le oedd de Cymru adeg y deinosoriaid? Faint o wahanol fathau o ddeinosoriaid oedd yn byw yma? Cewch ddarganfod hefyd am y difodiant mwyaf erioed, sut wnaeth deinosoriaid esblygu a'n syniadau ni am sut oedden nhw’n edrych!

Gellir prynnu tocynnau ar y diwrnod o Siop yr Amgueddfa.

Tocynnau

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg, ond rydym yn hapus i drefnu hwylusydd Cymraeg. Er mwyn rhoi cyfle i ni drefnu hwylusydd, gofynnwn i chi e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk o leiaf wythnos cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.

Dippy ar Daith
Cindy Howells
Digwyddiadau