Digwyddiadau

DigwyddiadFfilm yr ŵyl

14 a 15 Rhagfyr 2019, 10.30am, 12pm, 1.30pm, 3pm
Pris £6
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle www.eventbrite.co.uk

Am brofiad hudolus y Nadolig hwn, dewch i weld un o ffilmiau mawr yr ŵyl 'The Snowman' yn Theatr Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Camwch i hwyl yr ŵyl drwy'r fynedfa Nadoligaidd a chwtsio mewn yn y theatr ar gyfer y clasur o ffilm. Ar ôl y ffilm bydd cyfle i gwrdd â dyn eira a chael llun gydag e.

Tocynnau

Rhagor o wybodaeth

  • Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn a chanddo docyn.
  • Mae blwch o bopcorn hefyd wedi'i gynnwys yn y pris.
  • Mae angen prynu tocyn ar gyfer pob sedd.
Digwyddiadau