Digwyddiadau

Digwyddiad: Antur: Y Ddaear – profiad realiti rhithwir

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
O 1 Ebrill 2023, 10.30am-4pm
Pris £6
Addasrwydd 13 mlwydd oed +
Archebu lle Prynwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw os alli di neu ar ddiwrnod eich ymweliad (os oes rhai ar ôl)
Dyn ifanc mewn cadair yn gwisgo penwisg VR a'i freichiau ar led
Dyn ifanc mewn cadair yn gwisgo penwisg VR a'i freichiau ar led
L.W.N.A. yr android yn ymweld â Chymru cyn-hanesyddol. Ciplun o'r profiad VR yn dangos robot yn eich tywys drwy hen fforest yn llawn rhedyn a choed
L.W.N.A. yr android yn ymweld â Chymru cyn-hanesyddol. Ciplun o'r profiad VR  yn dangos robot yn eich tywys dan y dŵr gyda phob math o greaduriaid y dŵr

3…2…1… Gwisga dy benwisg a bydd yn barod am daith fythgofiadwy!

Ymuna â L.W.N.A. yr android ar antur trwy amser mewn profiad realiti rhithwir newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!

Ar y daith hon byddi’n gweld sut le oedd Cymru filiynau o flynyddoedd yn ôl – o’r moroedd cynnes lle mae Sir Benfro heddiw, i oerfel Powys yn Oes yr Iâ.

Pwy â ŵyr beth welwn ni – trychfilod enfawr, deinosoriaid, mamoth blewog hyd yn oed!

 

Rheolau’r antur:

  • Dim ond anturiaethwyr 13 oed a hŷn sy’n cael mynd ar yr antur hon

  • Bydd angen i oedolyn cyfrifol lofnodi ffurflen ymwadiad er mwyn i ti allu mynd ar y daith

  • Oes gen ti docyn? Cyntaf i’r felin – mae’n well prynu tocyn ar-lein ymlaen llaw os alli di. Os oes rhai ar ôl, galli hefyd brynu tocyn wrth y ddesg ym mhrif neuadd yr Amgueddfa

  • Galli ymuno â’r antur hon ar benwythnosau, gwyliau banc ac yn ystod gwyliau ysgol.

  • Taith gyntaf am 10.30am, taith olaf am 4pm. Mae’n para 15 munud.

  • Rhybudd – rydyn ni’n mynd ar daith i blaned yn llawn deinosoriaid a phryfed anferth sy’n gallu bod yn ddychrynllyd!
  • Mae’r antur ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg – rho wybod i aelod o staff beth yw dy ddewis iaith wrth ddechrau’r antur
  • Mae’r profiad ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn

 

Cwestiynau CyffredinDatganiad Ymadawiad

 

 

 

Digwyddiadau