Digwyddiad: Antur: Y Ddaear – profiad realiti rhithwir
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd




3…2…1… Gwisga dy benwisg a bydd yn barod am daith fythgofiadwy!
Ymuna â L.W.N.A. yr android ar antur trwy amser mewn profiad realiti rhithwir newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!
Ar y daith hon byddi’n gweld sut le oedd Cymru filiynau o flynyddoedd yn ôl – o’r moroedd cynnes lle mae Sir Benfro heddiw, i oerfel Powys yn Oes yr Iâ.
Pwy â ŵyr beth welwn ni – trychfilod enfawr, deinosoriaid, mamoth blewog hyd yn oed!
Rheolau’r antur:
- Dim ond anturiaethwyr 13 oed a hŷn sy’n cael mynd ar yr antur hon
- Bydd angen i oedolyn cyfrifol lofnodi ffurflen ymwadiad er mwyn i ti allu mynd ar y daith
- Oes gen ti docyn? Cyntaf i’r felin – mae’n well prynu tocyn ar-lein ymlaen llaw os alli di. Os oes rhai ar ôl, galli hefyd brynu tocyn wrth y ddesg ym mhrif neuadd yr Amgueddfa
- Galli ymuno â’r antur hon ar benwythnosau, gwyliau banc ac yn ystod gwyliau ysgol.
- Taith gyntaf am 10.30am, taith olaf am 4pm. Mae’n para 15 munud.
- Rhybudd – rydyn ni’n mynd ar daith i blaned yn llawn deinosoriaid a phryfed anferth sy’n gallu bod yn ddychrynllyd!
- Mae’r antur ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg – rho wybod i aelod o staff beth yw dy ddewis iaith wrth ddechrau’r antur
- Mae’r profiad ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn
Cwestiynau CyffredinDatganiad Ymadawiad