Digwyddiadau

DigwyddiadAntur: Y Ddaear

O 4 Tachwedd 2019
Pris £10
Addasrwydd 10 mlwydd oed +
Archebu lle Prynwch eich tocynnau ar ddiwrnod eich ymweliad

3…2…1… Gwisga dy benwisg a bydd yn barod am daith fythgofiadwy!

Ymuna â L.W.N.A. yr android ar antur trwy amser mewn profiad realiti rhithwir newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!

Ar y daith hon byddi’n gweld sut le oedd Cymru filiynau o flynyddoedd yn ôl – o’r moroedd cynnes lle mae Sir Benfro heddiw, i oerfel Powys yn Oes yr Iâ.

Pwy â ŵyr beth welwn ni – trychfilod enfawr, deinosoriaid, mamoth blewog hyd yn oed!

Rheolau’r antur:

  • Oes gen ti docyn? Bydd angen i oedolyn cyfrifol lofnodi ffurflen ymwadiad er mwyn i ti allu mynd ar y daith
  • Cyntaf i’r felin – pryna dy docyn wrth y ddesg ym mhrif neuadd yr Amgueddfa
  • Dim ond anturiaethwyr 10 oed a hŷn sy’n cael mynd ar yr antur hon
  • Rhybudd – rydyn ni’n mynd ar daith i blaned yn llawn deinosoriaid a phryfed anferth sy’n gallu bod yn ddychrynllyd!
  • Mae’r antur ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg – rho wybod i aelod o staff beth yw dy ddewis iaith wrth ddechrau’r antur
  • Mae’r profiad ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn

Cwestiynau Cyffredin

Hysbysiad Pwysig a Datganiad Ymwadiad

L.W.N.A. yr android yn ymweld â Chymru cyn-hanesyddol
L.W.N.A. yr android yn ymweld â Chymru cyn-hanesyddol
Dyn yn gwisgo penwisg realiti rhithwir
Digwyddiadau