Digwyddiadau

Sgwrs: Sgwrs: Cleddyfau, Sodlau Uchel a Brylcreem: Gwisgoedd yn Ffilmiau Hollywood Richard Burton

16 Mai 2020, 3pm
Pris £3.50 + ffi archebu
Addasrwydd 16+
Archebu lle www.eventbrite.co.uk

© Prof. Lloyd Llewellyn-Jones

Cafodd gyrfa Hollywood Richard Burton ei hybu gan ei ymddangosiad mewn dwy epig am yr henfyd: The Robe (1953) a Cleopatra (1963). Roedd y ffilmiau hyn yn rhoi cipolwg i gynulleidfaoedd ar oes wahanol, gan addo ailgread triw o ysblander Rhufain a’r Aifft. Mewn gwirionedd, roedd dyluniad ffilmiau epig yn ddibynnol ar estheteg fodern, yn enwedig gwisgoedd ‘hanesyddol’ y sêr. Dyma pam y gwelwn Cleopatra mewn sodlau uchel, neu Mark Antony gyda Brylcreem yn ei wallt. Bydd y ddarlith hon, gyda darluniau, yn edrych ar wisgoedd yn ffilmiau Hollywood Richard Burton, gan ganolbwyntio ar wisgoedd Liz a Dick yn y glasur Cleopatra.

Tocynnau

Mae Lloyd Llewellyn-Jones yn Athro Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr ar dderbyniad y cynfyd mewn ffilm a diwylliant poblogaidd. Enw ei lyfr diweddaraf yw Designs on the Past: How Hollywood Created the Ancient World (2018).    

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg, ond rydym yn hapus i drefnu hwylusydd Cymraeg. Er mwyn rhoi cyfle i ni drefnu hwylusydd, gofynnwn i chi e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk o leiaf wythnos cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.

© Prof. Lloyd Llewellyn-Jones

Digwyddiadau