Arddangosfa: Lily'n Ffeindio Ffosil

Lily Wilder (4 mlwydd oed), a ddarganfu'r ffosil ym Mae Bendricks gyda'r sbesimen ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Pan aeth Lily Wilder, 4 mlwydd oed, i draeth yn ne Cymru, daeth ar draws rhywbeth anerferol... ffosil 220 miliwn oed!
Mae'r ffosil a ganfu yn fath o ôl troed o'r enw Evazoum, a wnaed tua 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl gan dinosor llysieuol anhysbys ar hyn o bryd.
Mae'r ôl troed deinosor ffosileiddio hwn o 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath o unrhyw le yn y DU.
Nodyn ar gasglu ffosiliau
Mae ffosiliau yn rhan arbennig iawn o dreftadaeth Cymru, ond gellir eu difrodi'n hawdd os bydd pobl yn ceisio eu casglu. Er bod llawer o deuluoedd yn mwynhau hela ffosil, mae'r amgueddfa'n pwysleisio bod angen gwneud hyn yn gyfrifol. Ni ddylai aelodau o'r cyhoedd ond mynd â nifer cyfyngedig o faethsils bach, rhydd adref o draethau lle caniateir iddo wneud hynny'n gyfreithiol.
Roedd yn rhaid gofyn am ganiatâd arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared yn gyfreithiol ar sbesimen ffosil Lily. Mae traeth Bendricks o dan berchnogaeth breifat ac mae wedi'i ddiogelu'n gyfreithiol fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ni chaniateir casglu unrhyw greigiau, mwynau a ffosiliau o'r safle hwn,a gallarwain at ddirwyon mawr.
Mae'r tirfeddiannwr, Sefydliad Cadwraeth Daearegol Prydain yn elusen sy'n gweithio i warchod treftadaeth naturiol drwy berchnogaeth safleoedd, addysg ac ymgysylltu â'r gymuned.